Rhoi cyngor amgylcheddol ar ddatblygiadau arfaethedig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys rhoi cyngor amgylcheddol ar effaith datblygiadau arfaethedig ar yr amgylchedd. Mae'n cynnwys yr angen i roi cyngor sydd yn cydymffurfio'n gyfreithiol mewn fframwaith statudol (yn cynnwys â'r ddeddfwriaeth, polisi neu reoliadau, yn cynnwys is-ddeddfau lleol) i alluogi penderfyniadau i gael eu gwneud ynghylch y ffordd orau o ystyried anghenion yr amgylchedd. Gallai hyn gynnwys dylunio cynlluniau lleddfu, iawndal a gwelliant (yn cynnwys Enillion Net Bioamrywiaeth) mewn ymateb i effeithiau datblygu niweidiol.
Rhoddir y cyngor i eraill er mwyn eu helpu i ffurfio safbwynt neu i wneud penderfyniad gwybodus a phwyllog. Gall eich cyngor gael ei dderbyn, ei weithredu neu beidio, neu gall ffurfio sylfaen unrhyw gais am drwydded ar ôl i gymeradwyaeth gael ei rhoi.
Mae'r safon hon yn debygol o fod yn berthnasol i staff sy'n ymdrin â chynigion a cheisiadau datblygu, yn cynnwys Staff Asiantaethau Statudol ac Awdurdod Lleol, Swyddogion Mynediad, Ecolegwyr, Daearegwyr ac Archeolegwyr, Arbenigwyr Amgylcheddol eraill (yn cynnwys Ymgynghorwyr a Swyddogion Polisi Amgylcheddol) ac eraill sydd angen rhoi cyngor â'r ddeddfwriaethol sydd yn gysylltiedig â'u maes gwaith sydd wedyn yn rhoi cyngor i ddatblygwyr, cynllunwyr, gwneuthurwyr grantiau a chydweithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio gwybodaeth a dogfennau a ddarparwyd a nodi materion amgylcheddol sydd yn gysylltiedig â'r datblygiad arfaethedig
- nodi unrhyw fylchau yn y wybodaeth a'r dogfennau a ddarparwyd a chael eglurhad a mwy o wybodaeth er mwyn gallu rhoi cyngor ar y materion amgylcheddol perthnasol
- ystyried pob mater a chyfle amgylcheddol perthnasol wrth adolygu effaith y datblygiad arfaethedig
- cynnal ymweliadau safle, lle bo angen
- rhoi cyngor amgylcheddol sydd yn cydymffurfio'n gyfreithiol er mwyn galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn unol â strategaeth berthnasol, polisi, â'r gofynion cyfreithiol, codau ymarfer â'r gofynion ariannu
- cyflwyno eich argymhellion ar y fformat sy'n ofynnol ar gyfer y gynulleidfa
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ymchwilio a dehongli gwybodaeth a dogfennau er mwyn rhoi cyngor ar faterion amgylcheddol sydd yn gysylltiedig â'r datblygiad arfaethedig
- ble i gael gafael ar fwy o wybodaeth a phan mae digon o wybodaeth ar gael, gallu rhoi cyngor
yr ystod o faterion a chyfleoedd amgylcheddol i'w hystyried wrth adolygu effaith y datblygiad arfaethedig
y gofynion cyfreithiol, codau ymarfer, strategaeth, polisi a rheolau ariannu perthnasol ar gyfer amgylchiadau gwahanol a goblygiadau peidio â chydymffurfio â'r rhain wrth roi cyngor
- y cyngor perthnasol ar gyfer amgylchiadau gwahanol
- sut i roi gwybodaeth am gydymffurfio a'i fonitro
- y fformat gofynnol ar gyfer cyflwyno argymehllion i'r gynulleidfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynulleidfa:
- cynllunwyr awdurdod lleol
- cynghorwyr ariannu
- cydweithwyr
- grwpiau wedi'u trefnu/cymunedol
- aelodau unigol o'r cyhoedd
- pobl â diddordebau arbennig yn y datblygiad
- perchnogion tir
- y datblygwr
- ymgynghorwyr, asiantau ac arbenigwyr eraill y gofynnir iddynt am gymorth i wneud neu asesu cais
- ymholiadau cynllunio
- adolygiadau barnwrol
Datblygiadau:
- ceisiadau cynllunio
- prosiectau amgylcheddol
- polisïau amgylcheddol
- strategaethau amgylcheddol
- ceisiadau am drwydded
- ceisiadau am grant
- deddfwriaeth amgylcheddol
Materion a chyfleoedd amgylcheddol:
dynodiadau safle
adeiladau rhestredig
- asedau treftadaeth
- mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
- bioamrywiaeth, cynefinoedd a rhywogaethau
- presenoldeb rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid
- cytundebau amgylcheddol wedi'u hariannu gan grant
defnydd presennol neu flaenorol o'r safle
gweithgareddau eraill yn yr ardal
- ffisegol (lleoliad daearyddol, hinsawdd, daeareg)
- cyfalaf naturiol
- cynaliadwyedd
- Enillion Net Bioamrywiaeth
- lleihau carbon
- newid hinsawdd
- risg o lifogydd
- gwerth natur
- amgylcheddol
- ecolegol
- cymunedau isadeiledd gwyrdd
- gwneud lle
- ymwelwyr
- isadeiledd safle
- mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
- deddfwriaeth
- polisïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang
- polisïau sefydliadol
ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, esthetig ac economaidd
iechyd a lles
Gwybodaeth a dogfennau:
- dogfennau cynllunio
- datganiad amgylcheddol
- effaith amgylcheddol ac asesiadau eraill ar y safle
- mapiau (yn cynnwys gwybodaeth wedi'i storio'n electronig ar Systemau Gwyboaeth Ddaearyddol (GIS))
- cynlluniau penseiri
- gohebiaeth
- ceisiadau grant
- data arolygu amgylcheddol
- data arolygu hanesyddol
- data arolygu tirwedd
- data arolygu pridd a daearegol