Gweithio mewn amgylcheddau arfordirol a morol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys sut i weithio mewn amgylcheddau arfordirol a morol. Gallai'r gwaith gynnwys monitro ac adrodd ar amgylcheddau ffisegol a biolegol a/neu ddatblygiadau morol (fel marinas, ffermydd gwynt neu dreillio), gan gynorthwyo neu gynnal y gwaith o adfer twyni a/neu brosiectau morol enciliad wedi'i reoli a/neu weithio i leihau amharu ar gynefin morol.
Mae'r safon yn mynd i'r afael â'r sgiliau sydd eu hangen i arolygu, monitro a rheoli cynefinoedd morol, yn cynnwys adnabod cynefinoedd a rhywogaethau er mwyn cynnal cadwraeth forol yng nghyd-destun rheoli parthau arfordirol y DU.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer Swyddogion Polisi Amgylcheddol, Swyddogion Cadwraeth ac Ecolegwyr Morol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith i gael ei wneud
- nodi'r ystod o amgylcheddau arfordirol a morol lleol
- nodi dosbarthu parthau morol
- nodi'r ystod o gynefinoedd morol ac arfordirol yn yr amgylcheddau morol
- nodi fflora a ffawna arfordirol a morol yn y cynefinoedd hynny
- nodi'r defnydd o'r amgylcheddau arfordirol a morol lleol
- nodi newidiadau hanesyddol a phosibl i'r amgylcheddau arfordirol a morol lleol
- monitro ac adrodd ar y llanw, tonnau a stormydd
- monitro ac adrodd am amgylcheddau ffisegol a biolegol
- nodi ac adrodd ar yr ystod o risgiau a ffynonellau llygredd
- gweithio gyda sefydliadau sydd yn gysylltiedig â rheoli amgylcheddau arfordirol a morol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg
- sut i adnabod yr ystod o amgylcheddau arfordirol a morol
- sut i adnabod parthau gwahanol yn yr amgylcheddau arfordirol a morol
- sut i adnabod cynefinoedd arfordirol a morol
- sut i adnabod fflora a ffawna arfordirol a morol
sut mae'r amgylchedd arfordirol a morol lleol yn cael ei ddefnyddio
sut mae amgylcheddau arfordirol a morol lleol wedi newid a sut byddant yn newid dros amser
sut i ganfod am a monitro'r llanw, tonnau a stormydd, a sut maent yn effeithio ar yr arfordir ac amgylcheddau morol lleol
- ystod o dechnegau ar gyfer monitro amgylcheddau ffisegol a biolegol
- y mathau o ffynonellau llygredd, risgiau ac effeithiau posibl
- y sefydliadau sydd yn gysylltiedig â rheoli arfordirol a morol, eu rolau a'u cwmpas
- goblygiadau'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad i'ch gwaith
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Newidiadau i'r amgylchedd:
- naturiol
- artiffisial
Arfordirol: yr ardal o'r parth rhynglanwol (marc isaf y dŵr) mewndirol am ddwy ffilltir
Cynefinoedd:
- tir
- rhynglanwol
- tanddwr
Morol: yr ardal o'r parth rhynglanwol (marc uchaf y dŵr) allan i derfyn y dyfroedd tiriogaethol (12 milltir forol)
Ffactorau amgylchedd ffisegol a biolegol i'w hystyried:
- dŵr
- erydiad
- niwed
- cynefinoedd
- fflora
- ffawna
Risgiau a ffynonellau llygredd:
- halogiad
- gollyngfeydd
- gwastraff
Defnydd o'r amgylcheddau arfordirol a morol:
- hamdden
- cadwraeth
- economaidd
- diwydiannol
- milwrol