Ymdrin â digwyddiad o lygredd

URN: LANEnC24
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys ymdrin â digwyddiad o lygredd ac adfer yr amgylchedd i gyflwr derbyniol. Mae'n berthnasol i amgylcheddau dŵr a thir lle mae llygredd wedi digwydd.

Mae'n rhaid eich bod yn gallu adnabod ac ymdrin â pheryglon sydd yn gysylltiedig â llygrwyr amrywiol a chymryd y camau gofynnol i leihau'r effaith. Gallai hyn gynnwys hysbysu a gweithio gyda sefydliadau eraill.

Mae'n rhaid i'ch gwaith i adfer amgylcheddau wedi'u llygru gael ei wneud mewn ffordd sy'n lleihau unrhyw effaith amgylcheddol niweidiol. Mae'n rhaid i'r defnydd o gyfarpar, deunyddiau a sylweddau ar gyfer glanhau'r amgylchedd ystyried ystyriaethau amgylcheddol ehangach.

Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr sydd yn gysylltiedig ag adfer amgylcheddau wedi'u llygru i gyflwr derbyniol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r digwyddiad o lygredd
  2. gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) addas, yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr, y math o ddigwyddiad a gofynion eich sefydliad
  3. dewis, paratoi a defnyddio'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau sy'n ofynnol yn ddiogel ac yn effeithiol i ymdrin â'r digwyddiad o lygredd
  4. rhoi dulliau ar waith i ymdrin â'r digwyddiad o lygredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  5. defnyddio deunyddiau a sylweddau perthnasol i ymdrin â'r digwyddiad o lygredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r ddeddfwriaeth berthnasol

  6. gweithio i adfer yr amgylchedd llygredig a diogelu'r amgylchedd cyfagos, yn unol â'r cyfarwyddiadau ac anghenion y safle

  7. ystyried y tywydd a chyflwr y ddaear a'r effaith bosibl y gallai'r cyflyrau hyn ei gael ar y digwyddiad
  8. gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  9. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi'u heffeithio ganddo
  10. cymryd y mesurau perthnasol i ddiogelu a chynnal diogelwch y cyhoedd rhag y digwyddiad o lygredd
  11. cwblhau gwaith i adfer yr amgylchedd llygredig i'r safon gofynnol, ac adrodd am unrhyw faterion wrth y person perthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. gweithredu pan nad yw gweithrediadau adfer yn gweithio
  13. glanhau'r offer a ddefnyddir i dynnu'r llygrwyr a'r sylweddau glanhau yn gywir, yn unol â'r math o ddigwyddiad llygru, cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr a pholisïau eich sefydliad
  14. gwaredu deunyddiau a sylweddau gwastraff a ddefnyddir i ymdrin â'r digwyddiad o lygredd yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau, y ddeddfwriaeth berthnasol a natur y digwyddiad
  15. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg
  2. y mathau o beryglon sydd yn gysylltiedig â llygrwyr gwahanol
  3. y mathau o ddigwyddiadau llygredd a'r dulliau a'r rhagofalon a ddefnyddir wrth ymdrin â nhw
  4. ble i gael cyfarwyddiadau ar gyfer ymdrin â'r digwyddiad o lygredd
  5. y dewis a'r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer ymdrin â'r digwyddiad o lygredd
  6. sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n briodol ar gyfer ymdrin â'r digwyddiad o lygredd
  7. y dulliau cywir ar gyfer defnyddio deunyddiau a chyfarpar ar gyfer ymdrin â'r digwyddiad o lygredd
  8. y dulliau cywir ar gyfer diogelu'r amgylchedd cyfagos
  9. defnydd cadwriaethol, hamdden ac economaidd y safle a sut mae'r rhain yn ymwneud â'ch gweithgareddau gwaith
  10. sut mae'r tywydd a chyflwr y ddaear yn effeithio ar y digwyddiad o lygredd
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  12. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  13. yr arwyddion nad yw gweithrediadau adfer yn gweithio a'r camau i'w cymryd
  14. y gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu ac adrodd gwybodaeth am y digwyddiad o lygredd
  15. y dulliau cywir ar gyfer glanhau'r cyfarpar a ddefnyddiwyd i dynnu llygrwyr a sylweddau
  16. y gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu deunyddiau a sylweddau gwastraff a ddefnyddiwyd i ymdrin â digwyddiad o lygredd
  17. gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau:

  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cyfreithiol
  • canllawiau arfer da
  • gofynion cwsmeriaid
  • safon gofynol y canlyniad
  • cyfarwyddiadau llafar

Gall llygrwyr gynnwys: llaid, anifeiliaid marw a llygredd cemegol yn cynnwys elifion, dŵr ffo amaethyddol a dŵr ffo arall, plaladdwyr, glanedyddion, olew ac ati


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC24

Galwedigaethau Perthnasol

Rhodiwr, Gweithiwr Ystâd, Ecolegwyr, Swyddog Rheoli Amgylcheddol

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

cynefin; amgylchedd; safle; niwed; llygredd