Gweithio’n ddiogel mewn mannau cyfyng

URN: LANEnC23
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y cymwyseddau sydd yn ofynnol ar gyfer gweithio'n ddiogel mewn mannau cyfyng. Mae'n berthnasol ble bynnag y byddwch yn gweithio mewn gofod cyfyng, waeth pa weithrediad technegol yr ydych yn ei wneud.

Mae'n cynnwys cynllunio a pharatoi gwaith mewn mannau cyfyng, yn cynnwys asesu'r risg.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr ar afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd sydd yn gwneud gwaith mewn mannau cyfyng.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau'r angen i weithio mewn ardaloedd cyfyng
  2. paratoi ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng yn unol â chodau ymarfer a gweithdrefnau perthnasol eich sefydliad
  3. asesu'r risg o weithio yn y man cyfyng a dewis y dulliau gwaith perthnasol
  4. dewis a defnyddio'r cyfarpar diogelwch sy'n ofynnol i sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir, wedi'i raddnodi, ac wedi'i gynnal yn addas ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng
  5. gwneud y gwiriadau cywir cyn cael mynediad yn unol â'r codau ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad
  6. gosod arwyddion rhybudd a rhwystrau yn y lleoliadau perthnasol

  7. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  8. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr wrth weithio mewn mannau cyfyng
  9. monitro diogelwch amodau gwaith yn barhaus yn ystod gwaith mewn gofod cyfyng yn unol â'r codau ymarfer perthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad
  10. lle bo angen, dechrau gweithdrefnau diogelwch a brys yn unol â'r codau ymarfer perthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad
  11. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr egwyddorion a'r dulliau ar gyfer gweithio mewn mannau cyfyng
  2. yr amodau sydd yn pennu pryd mae angen gwaith mewn mannau cyfyng
  3. y codau ymarfer perthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng
  4. y mathau o risg sydd yn gysylltiedig â gwaith mewn mannau cyfyng
  5. y mathau o gyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng a'r defnydd cywir a graddnodau cyfarpar o'r fath
  6. y gwiriadau a'r gweithdrefnau mynediad sy'n ofynnol wrth weithio mewn mannau cyfyng
  7. sut a pham y dylid defnyddio arwyddion rhybudd wrth weithio mewn mannau cyfyng

  8. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau'r sefydliad

  9. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu wrth weithio mewn mannau cyfyng a sut dylid gwneud hyn
  10. y dulliau ar gyfer monitro diogelwch yn ystod gwaith mewn mannau cyfyng
  11. gweithdrefnau diogelwch a brys eich sefydliad ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng a sut i ysgogi'r rhain
  12. y gofynion cyfreithiol â'r gofynion eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarpar:

  • cyfarpar profi nwy
  • cyfathrebiadau
  • dillad diogelu
  • cyfarpar anadlu neu setiau dianc
  • rhaffau achub
  • winsh
  • harnais
  • goleuadau

Risg:

  • lefelau dŵr
  • atmosffêr
  • llygrwyr yn y dŵr
  • y tywydd
  • risg strwythurol

Gweithdrefnau diogelwch a brys:

  • newidiadau i lefelau dŵr
  • newidiadau i'r atmosffêr
  • anallu aelodau'r tîm
  • llygrwyr yn y dŵr

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC22

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Swyddog Rheoli Amgylcheddol

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

mannau cyfyng; draeniau; ffosydd; afonydd