Gweithredu cychod gwaith

URN: LANEnC22
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys gweithredu cychod gwaith. Mae'n rhaid i chi feddu ar yr ardystiad neu'r gymeradwyaeth ofynnol i weithredu'r dosbarth perthnasol o gwch gwaith.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'n rhaid i chi hefyd ystyried yr effaith y bydd cychod gwaith yn ei gael ar yr ardal gyfagos, fel effaith cychod gwaith ar y defnydd hamdden o'r amgylchedd dŵr a chynefinoedd naturiol.

Mae'r safon ar gyfer pob gweithiwr afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd sydd eisiau defnyddio cychod gwaith ar gyfer gwneud gweithgareddau fel cynnal, arolygu a chludo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithredu rheolyddion y cwch gwaith yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd ac yn unol â natur y gweithrediadau
  2. gweithredu'r cwch gwaith yn ddiogel ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad
  3. symud y cwch gwaith heb niweidio'r cwch gwaith gan ystyried yr amodau amgylcheddol arferol, cynefinoedd bywyd gwyllt a defnyddwyr eraill y dŵr
  4. nodi unrhyw beryglon a rhwystrau a chymryd camau i leihau'r risg wrth symud y cwch
  5. adrodd am unrhyw anawsterau wrth wneud gweithrediadau yn brydlon wrth y person perthnasol yn unol â'r gofynion eich sefydliad
  6. parhau i gyfathrebu gydag aelodau'r criw ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo, yn unol â'r gofynion eich sefydliad
  7. ymateb i amodau amgylcheddol wrth weithredu cychod gwaith
  8. cynnal bioddiogelwch wrth weithredu cychod gwaith
  9. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  10. cymryd y camau gofynnol mewn ymateb i argyfyngau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i leoli safleoedd a defnyddio System Leoli Fyd-eang (GPS), pan fo angen
  2. y dulliau diogel a chywir ar gyfer gweithredu cychod gwaith, yn cynnwys clymu
  3. cyfyngiadau gweithredol cychod gwaith
  4. y mathau o weithrediadau sy'n cael eu gwneud gan ddefnyddio cychod gwaith
  5. y mathau o beryglon a allai ddigwydd wrth ddefnyddio cychod gwaith, yn cynnwys malurion yn arnofio, rhwystrau o dan y dŵr a strwythurau sefydlog
  6. sut i ymateb i beryglon yn ystod symudiadau cychod gwaith
  7. y niwed posibl a allai ddigwydd yn ystod symudiadau a'r camau i'w cymryd
  8. y mathau o anawsterau a allai ddigwydd wrth gynnal gweithrediadau ac wrth bwy y dylid adrodd am y rhain yn unol â'r gofynion eich sefydliad
  9. terfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas â gweithrediad cychod gwaith
  10. goblygiadau'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau  ymarfer a pholisïau eich sefydliad i'ch gwaith
  11. y cyfrifoldeb dros reolaeth y cwch a'r gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu gydag aelodau o'r criw a phobl eraill
  12. pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth weithredu cychod gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, â'rgofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  14. y defnydd hamdden ac economaidd o'r amgylchedd dŵr a sut mae defnydd o'r fath yn ymwneud â gweithgareddau gwaith
  15. yr amodau amgylcheddol y mae'n rhaid eu hystyried yn ystod gweithrediadau cychod gwaith
  16. y mathau o argyfyngau a all ddigwydd yn ystod gweithrediadau cychod gwaith
  17. y dulliau cywir ar gyfer rhoi gweithdrefnau diogelwch a brys ar waith yn cynnwys person yn y dŵr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Argyfyngau:

  • tân
  • suddo
  • methiant injan
  • gwrthdrawiad
  • person yn y dŵr
  • gollyngiad sylweddau fflamadwy neu beryglus

Amodau amgylcheddol:

  • tywydd cyffredin
  • llif dŵr
  • dyfnder dŵr
  • gwybodaeth am y llanw

Gweithrediadau:

  • cynnal a chadw
  • arolygu
  • cludo

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC22

Galwedigaethau Perthnasol

Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Ecolegwyr, Swyddog Rheoli Amgylcheddol

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

amgylchedd; dyfrffyrdd