Paratoi a chynnal cyflwr gweithredol cychod gwaith

URN: LANEnC21
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a chynnal cyflwr gweithredol cychod gwaith.

Mae'n rhaid i chi wneud y gwiriadau a'r gwaith cynnal angenrheidiol, yn ogystal â sicrhau bod y cwch yn ddiogel ac yn barod i'w ddefnyddio. Yn ogystal, mae'n rhaid i chi nodi a thrin unrhyw namau neu broblemau sydd yn codi cyn gweithredu'r cwch gwaith.

Mae'r safon ar gyfer pob gweithiwr afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd sydd yn ddefnyddio cychod gwaith ar gyfer gwneud gweithgareddau fel cynnal, arolygu a chludo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi'r cwch gwaith trwy gynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw cyn ei ddefnyddio, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol, gofynion y cynhyrchwyr a'r sefydliad
  2. sicrhau bod cyfarpar ar y bwrdd, yn cynnwys cyfarpar diogelwch, yn ddiogel, mewn cyflwr gweithredol da ac yn hygyrch
  3. nodi unrhyw namau yng nghyflwr gweithredol y cwch gwaith ac unioni'r rhain, o fewn maes eich cyfrifoldeb
  4. cyfeirio namau a phroblemau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb at y person perthnasol yn unol â'r gofynion y sefydliad
  5. cadarnhau bod y cwch gwaith mewn cyflwr gweithredol diogel ac yn addas ar gyfer gofynion y gwaith
  6. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  7. cwblhau'r cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwiriadau a'r gweithdrefnau cynnal gofynnol ar gyfer cychod gwaith
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  3. cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr a'r manylebau ar gyfer cynnal injan a chyfarpar y cwch gwaith
  4. y gofynion ar gyfer gwirio a chynnal cyfarpar ar y bwrdd, yn cynnwys cyfarpar diogelwch
  5. y mathau o namau a phroblemau a allai ddigwydd gyda chyflwr gweithredol y cwch gwaith, yn cynnwys namau i injan, niwed i'r cwch a chyfarpar coll, a'r camau gofynnol mewn perthynas â'r rhain
  6. terfynau eich cyfrifoldeb ar gyfer unioni namau a phroblemau eraill
  7. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am namau a phroblemau
  8. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin a storio tanwydd ac ireidiau yn ddiogel
  9. y ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol sydd yn gysylltiedig â'r defnydd o gychod gwaith

  10. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  11. y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwiriadau a gweithdrefnau cynnal:

  • gwiriadau diogelwch
  • gwiriadau injan
  • cynnal a chadw injan
  • cyflwr y cwch

Cyfarpar:

  • cyfarpar diogelwch
  • cyfarpar gweithredol

Dyfrffyrdd:

  • dŵr mordwyadwy
  • llynnoedd
  • camlesi
  • cronfeydd dŵr
  • llifddorau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC21

Galwedigaethau Perthnasol

Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Swyddog Rheoli Amgylcheddol

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

amgylchedd; cadwraeth; dyfrffyrdd