Paratoi a gweithredu peiriannau dŵr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a gweithredu peiriannau dŵr. Mae'n berthnasol i ddefnyddio peiriannau dŵr ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw yn yr amgylchedd dŵr.
Wrth weithio gydag offer a pheiriannau trydanol, mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaewth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon ar gyfer gweithwyr afonydd, arfordirol a dyfrffyrdd sydd yn defnyddio peiriannau dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cadarnhau eich bod wedi cael unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu drwyddedau penodol angenrheidiol i weithredu'r peiriannau dŵr a gwneud y gweithgaredd gofynnol
- dewis y peiriannau dŵr perthnasol yn unol â gofynion y gwaith
- paratoi'r peiriannau dŵr trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn eu defnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a'r manylebau
cadarnhau bod y peiriannau dŵr yn addas, wedi'u clymu'n ddiogel ac yn barod i'w defnyddio
cadarnhau bod namau wedi eu nodi, eu cywiro a'u cofnodi, neu wedi'u cyfeirio at y person perthnasol
- defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir cyn gweithredu'r peiriannau dŵr ac wrth eu defnyddio
- gweithredu peiriannau dŵr yn ddiogel er mwyn gwneud y gweithgareddau gofynnol yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- adnabod amgylchiadau a allai effeithio ar y gweithgaredd a chymryd y camau gofynnol
- symud y peiriannau dŵr yn ddiogel ac yn unol â'r math o beiriant a'r gweithgaredd sy'n cael ei gynnal
- cynnal sefydlogrwydd y peiriannau dŵr yn gywir
- addasu gweithrediadau i ystyried y tywydd, amodau'r dŵr a defnyddwyr eraill y dŵr a chynefinoedd bywyd gwyllt
- gwneud y defnydd gorau o danwydd ac ireidiau wrth drin a defnyddio'r peiriannau dŵr
- cynnal bioddiogelwch wrth ddefnyddio peiriannau dŵr
- diffodd ac ynysu'r peiriannau dŵr ar ôl cwblhau'r gweithgaredd a'u gadael mewn cyflwr diogel a chywir ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o beiriannau dŵr a'u defnydd
- pwysigrwydd cael y caniatâd, cynsyniad neu drwyddedau perthnasol i weithredu'r peiriannau dŵr a gwneud y gweithgaredd gofynnol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a manylebau'r cynhyrchwyr ar gyfer paratoi a defnyddio peiriannau dŵr
- sut i glymu'r peiriannau dŵr mewn perthynas â'r gweithgaredd gofynnol
- y namau a allai ddigwydd a sut gellir unioni'r rhain
sut a pham defnyddio arwyddion rhybudd wrth weithredu peiriannau dŵr
y cyfarwyddiadau a'r manylebau ar gyfer defnyddio peiriannau dŵr ar gyfer gwneud y gweithgareddau gofynnol
- goblygiadau â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad ar gyfer eich gwaith
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- yr amgylchiadau a allai effeithio ar y gweithgaredd a'r camau y dylid eu cymryd
- terfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas ag amgylchiadau nas rhagwelwyd y gellir dod ar eu traws
- sut i gynnal sefydlogrwydd peiriannau dŵr
- y ffyrdd y mae'n rhaid addasu gweithrediadau i ystyried y tywydd, amodau'r dŵr, defnyddwyr eraill y dŵr a chynefinoedd bywyd gwyllt
- y defnydd effeithlon o beiriannau dŵr
- pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth ddefnyddio peiriannau dŵr a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y cyflwr y dylid gadael peiriannau dŵr ar ôl eu defnyddio
- gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau y gellir eu gwneud gan beiriannau dŵr:
- treillio
codi
symud rhwystrau
- cludo deunyddiau
Amgylchiadau a allai effeithio ar y gweithgaredd:
- peryglon diogelwch
- gwasanaethau uwchben ac o dan y ddaear
- newidiadau yn llif y dŵr
- methiant i glymu
- peiriannau'n torri lawr
- cynefinoedd bywyd gwyllt
- y tywydd
- defnyddwyr eraill y dŵr
Sicrhau bod peiriannau'n barod i'w defnyddio:
- cynnal a chadw arferol
- gwiriadau diogelwch
- llenwi â thanwydd ac iro
Arwyddion rhybudd:
- synau
- goleuadau
Peiriannau dŵr:
- ar fad
- ar lwyfan