Ymgynghori a gweithio gyda’r gymuned leol
Trosolwg
โ
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgynghori a gweithio gyda'r gymuned leol. Mae'r pwyslais ar ddatblygu perthynas gyda phobl leol โ ffermwyr, perchnogion tir, cynghorau plwyf lleol, ysgolion lleol, grwpiau cymunedol lleol ac yn y blaen โ trwy ymgynghori a chydweithredu.
Gall cynnwys y gymuned a thrigolion lleol wrth bennu gweithgareddau yn y dyfodol helpu i gynorthwyo canlyniad llwyddiannus.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bawb sydd angen gweithio'n agos gyda'r gymuned leol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cyfleoedd ar gyfer ymgynghori a chydweithredu gyda'r gymuned leol, yn unol รข pholisi eich sefydliad
sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag adrannau perthnasol y gymuned leol
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned leol am waith y sefydliad
- gweithio gyda'r gymuned leol i hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
- cael adwaith a safbwyntiau lle mae gwaith y sefydliad yn debygol o effeithio ar unigolion a grwpiau o'r gymuned leol
- casglu a gwerthuso'r holl wybodaeth berthnasol lle mae gwrthdaro buddiannau yn codi a chael cyngor arbenigol lle bo angen
- datblygu argymhellion ar gyfer gweithredu a chael cytundeb eich sefydliad
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bobl berthnasol yn y sefydliad ynghylch canlyniadau ymgynghoriadau a gwaith gyda'r gymuned leol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer ymgynghori a chydweithredu gyda'r gymuned leol
- y ffyrdd y gellir cynnal cyswllt gyda'r gymuned leol
- y rhesymau dros, a phwysigrwydd cysylltu ac ymgynghori gyda'r gymuned leol
- effaith debygol gwaith y sefydliad ar y gymuned leol
- pwysigrwydd hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth fel rhan o'r ymgynghoriad a gweithio'n gydweithredol
- y dulliau o hwyluso ymgynghori cymunedol effeithiol
- y lefelau ymgysylltu gwahanol gyda'r gymuned leol
- y gwrthdaro buddiannau posibl a gwirioneddol: rhwng grwpiau gwahanol o'r gymuned, a/neu rhwng y sefydliad a grwpiau cymunedol
- y dulliau o ddatrys gwrthdaro buddiannau
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymgynghori a gweithio gyda'r gymuned leol
- pwysigrwydd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i pobl berthnasol yn eich sefydliad am eich gwaith gyda'r gymuned leol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrthdaro buddiannau:
- rhwng anghenion y sefydliad ac anghenion y gymuned leol
- rhwng anghenion unigolion a grwpiau gwahanol yn y gymuned leol
Lefelau ymgysylltu:
- cyfnewid gwybodaeth
- ymgynghori
- cyngor
- cydweithredu
- cyd-benderfynu
- cydgyflwyno
Cyfleoedd ar gyfer ymgynghori a chydweithredu:
- ffurfiol
- anffurfiol