Gweithredu a chynnal systemau lefelau dŵr
URN: LANEnC19
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gweithredu a chynnal systemau lefelau dŵr. Mae'n berthnasol i unrhyw system ddŵr wedi ei rheoli lle mae cyfundrefn rheoli lefel neu lif mewn gweithrediad.
Byddwch yn gallu gweithredu amrywiaeth o beiriannau ac offer i gynnal systemau lefelau dŵr.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â chynnal systemau lefelau dŵr yn ymwneud ag afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- gweithredu a chynnal systemau lefelau dŵr yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau ac amodau lefelau dŵr
- paratoi a gweithio cyfarpar gwaith trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn ei ddefnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a'r manylebau
- gweithredu cyfarpar yn ddiogel ac yn unol â'r gweithdrefnau rheoli llif
- os bydd cyfarpar yn methu, defnyddio dulliau amgen i ddatrys y broblem ac adrodd wrth y person perthnasol
- symud unrhyw rwystrau a malurion neu gyfeirio at y person perthnasol ar gyfer gweithredu pellach
- cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
- monitro lefelau dŵr gan ddefnyddio'r dulliau cywir ac adrodd data yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad
- nodi ac ymateb i'r angen i newid systemau lefelau dŵr yn unol â gofynion eich sefydliad
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- nodi'r cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasiadau i weithdrefnau gwaith ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y cyfarwyddiadau a'r manylebau ar gyfer gweithredu a chynnal systemau lefelau dŵr
- diben a swyddogaeth y system lefel dŵr
- y defnydd o systemau rheoli llifogydd naturiol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y mathau o fethiant cyfarpar a allai ddigwydd a sut i adnabod ac ymdrin â namau o'r fath
- terfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas ag ymdrin â methiant cyfarpar ac wrth bwy i adrodd am hyn
- y mathau o rwystrau a allai ddigwydd a sut i adnabod ac ymdrin â nhw yn ddiogel
- pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- sut i fonitro ac amcangyfrif lefelau dŵr a'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddata lefelau dŵr
- y gofynion deddfwriaeth a sefydliad perthnasol sydd yn gysylltiedig â gweithredu a chynnal systemau lefelau dŵr
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- yr ystyriaethau amgylcheddol y mae'n rhaid eu hystyried
- y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt ac wrth bwy y dylid adrodd am y rhain
- y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar
- mecanyddol
- llaw
- trydanol
- hydrolig
Amodau lefelau dŵr:
- uchel
- arferol
- isel
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- mapiau safle/asesiad o ddelwedd o'r awyr
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion cyfreithiol
- canllawiau arfer da
- gofynion cwsmeriaid
- safon gofynnol y canlyniad
- cyfarwyddiadau llafar
Rheoli Llifogydd Naturiol:
- Argaeau yn gollwng
- Byndiau pren
- Coetir glannau afon
- Rheoli erydiad
- Blocio draeniau
Systemau lefelau dŵr:
- falf llabed
- gorsaf bwmpio
- llifddorau a choredau
- gatiau
- rhodlau daear
- boncyffion atal
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEnC19
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystâd, Swyddog Polisi Amgylcheddol
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
afonydd; dyfrffyrdd; falf llabed; rhodlau daear; llifddorau; coredau