Cynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau ar gyfer yr amgylchedd dŵr

URN: LANEnC18
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr. Gallai'r strwythurau gynnwys pontydd, ffosydd, coredau, cynalfuriau, ffensys concrid ac amddiffynfeydd arfordirol. Gellir gwneud gwaith i gynnal integredd y strwythur, i gynyddu ei rychwant oes neu at ddibenion diogelwch. Gall yr atgyweiriadau fod dros dro neu'n rhai hirdymor.

Wrth weithio gydag offer trydan neu beiriannau, mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar yr ardystiad presennol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon ar gyfer y cyflogeion a'r gwirfoddolwyr hynny sydd yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio strwythurau parhaol sydd yn addas ar gyfer afonydd, ardaloedd arfordirol a dyfrffyrdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. cadarnhau bod y gwaith a gynlluniwyd i gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr yn berthnasol i gyflwr a'r defnydd o'r strwythur
  4. nodi unrhyw amgylchiadau sy'n effeithio ar y gwaith a gynlluniwyd a chymryd y camau gofynnol
  5. ymgynghori lle y bo'n berthnasol, gydag asiantaethau, cynghorwyr a dogfennau'n ymwneud â strwythurau hanesyddol
  6. cael mynediad i'r safle yn unol â'r cyfarwyddiadau, manylebau a gofynion cyfreithiol perthnasol
  7. sicrhau bod y maint a'r math gofynnol o ddeunyddiau ar gael ac yn barod i'w defnyddio
  8. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, cyfarpar, peiriannau a'r PPE sy'n ofynnol, a'i gadw mewn cyflwr glân a gweithredol trwy gydol y gwaith
  9. paratoi'r cyfarpar neu'r peiriannau trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn eu defnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth, cyfarwyddiadau a'r manylebau perthnasol
  10. paratoi'r safle yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  11. gosod arwyddion rhybudd a rhwystrau mewn lleoliadau perthnasol
  12. cadarnhau bod gwaith dros dro yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau, manylebau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol a'u bod yn ddiogel ac yn barod i'w defnyddio
  13. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  14. gwneud gwaith i gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr mewn ffordd sydd yn achosi cyn lleied o niwed â phosibl i'r ardal gyfagos

  15. sicrhau bod eich y dulliau gwaith yn bodloni unrhyw gyfyngiadau statudol oherwydd statws y safle

  16. cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
  17. ymdrin â gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad
  18. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  19. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  20. cadarnhau bod eich gwaith ar y strwythur wedi'i orffen yn unol â'r manylebau o fewn y graddfeydd amser gofynnol
  21. cymryd y camau gofynnol os bydd argyfwng neu unrhyw newid mewn amgylchiadau
  22. adnabod y cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasu i weithdrefnau gwaith, ac adrodd am y rhain i'r person perthnasol
  23. adrodd am unrhyw ganfyddiadau annisgwyl i'r corff neu'r person perthnasol
  24. adfer y safle i gyflwr diogel sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  25. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i gael mynediad i'r safleoedd yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau, manylebau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. y cyfarwyddiadau a'r manylebau ynghylch sut i wneud eich gwaith
  5. sut i wybod pryd mae angen cynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr
  6. effaith traul ar y strwythur
  7. y mathau ac ansawdd y deunyddiau sydd eu hangen a'r dulliau ar gyfer paratoi deunyddiau o'r fath
  8. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  9. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  10. pwysigrwydd nodi gwasanaethau tanddaearol ac uwchben a sut i adnabod y rhain
  11. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau, a'r dulliau ar gyfer sefydlu a defnyddio gwaith dros dro
  12. goblygiadau'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad i'ch gwaith
  13. sut i baratoi'r safle a'r strwythur ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio
  14. y dulliau a'r technegau ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr
  15. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
  16. pwysirwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  17. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben
  18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  20. y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt ac wrth bwy y dylid adrodd am y rhain
  21. yr amgylchiadau a allai effeithio ar y gweithrediad, a'r camau cywir i'w cymryd mewn ymateb i amgylchiadau nas rhagwelwyd
  22. y mathau o niwed damweiniol neu lygredd a allai ddigwydd yn ystod gweithrediadau a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd
  23. y gweithdrefnau ar gyfer adrodd ynghylch canfyddiadau o ddiddordeb hanesyddol
  24. y ffyrdd y mae'n rhaid datgymalu gwaith dros dro yn ddiogel ac yn gywir
  25. sut i ddiogelu a chadw cynefinoedd a nodweddion hanesyddol yn ystod gweithgareddau clirio
  26. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr diogel, sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  27. y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amgylchiadau a allai effeithio ar weithrediadau:

  • peryglon safle
  • gwasanaethau
  • amodau gwaith
  • peiriannau'n torri lawr
  • cynefinoedd bywyd gwyllt
  • defnydd hamdden ac economaidd o'r amgylchedd dŵr
  • lefelau dŵr a glaw

Cyfarpar:

  • offer llaw
  • offer llaw trydanol
  • peiriannau symudol
  • peiriannau dŵr

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle /asesiad o ddelwedd o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cyfreithiol
  • canllawiau arfer da
  • gofynion cwsmeriaid
  • safon gofynnol y canlyniad
  • cyfarwyddiadau llafar

Deunyddiau:

  • concrid
  • geodecstiliau
  • dur
  • coed
  • cerrig
  • balast
  • pridd uchaf
  • bric
  • blociau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Pysgodfeydd

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

pontydd; ffosydd; coredau; cynalfuriau; ffensys concrid; amddiffynfeydd arfordirol