Llunio a gosod strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr

URN: LANEnC17
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys llunio a gosod strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr. Gallai'r strwythurau gynnwys pontydd, ffosydd, coredau, cynalfuriau, ffensys concrid ac amddiffynfeydd arfordirol. Mae'r safon yn cynnwys adeiladu'r strwythur ac ailosod y safle ar ôl cwblhau'r gwaith.

Wrth weithio gydag offer trydan neu beiriannau, mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyflogeion ac yn wirfoddolwyr sydd yn gweithio ar lunio a gosod strwythurau parhaol sydd yn addas ar gyfer afonydd, ardaloedd arfordirol a dyfrffyrdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. cael mynediad i'r safle yn unol â'r cyfarwyddiadau, manylebau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. sicrhau bod maint a'r math gofynnol o ddeunyddiau ar gael ac yn barod i'w defnyddio
  5. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, cyfarpar, peiriannau a'r PPE sy'n ofynnol, gan ei gadw mewn cyflwr glân a gweithredol trwy gydol y gwaith
  6. paratoi'r cyfarpar gwaith neu'r peiriannau trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn eu defnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth, cyfarwyddiadau a'r manylebau perthnasol
  7. paratoi'r safle yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  8. rhoi arwyddion rhybudd a rhwystrau mewn lleoliadau perthnasol
  9. cadarnhau bod gwaith dros dro yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau, y manylebau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol, a'u bod yn ddiogel ac yn barod i'w defnyddio
  10. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  11. gwneud y gwaith gofynnol i lunio a gosod nodweddion parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr mewn ffordd sy'n achosi'r niwed lleiaf posibl i'r ardal gyfagos
  12. sicrhau bod eich dulliau gwaith yn bodloni unrhyw gyfyngiadau statudol perthnasol oherwydd statws y safle
  13. cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
  14. ymdrin â gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion eich sefydliad
  15. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  16. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, a'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  17. cadarnhau bod eich gwaith ar y strwythur wedi'i orffen yn unol â'r manylebau o fewn y graddfeydd amser gofynnol
  18. cymryd y camau gofynnol os bydd argyfwng neu newidiadau mewn amgylchiadau
  19. adnabod y cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasiadau i weithdrefnau, ac adrodd am y rhain i'r person perthnasol
  20. adrodd am unrhyw ganfyddiadau annisgwyl i'r corff neu'r person perthnasol
  21. adfer y safle i gyflwr diogel sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  22. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i gael mynediad diogel a chywir i safleoedd yn unol â'r cyfarwyddiadau, manylebau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. y cyfarwyddiadau a'r manylebau ynghylch sut i wneud eich gwaith
  5. y mathau a faint o ddeunyddiau sydd eu hangen, a'r dulliau ar gyfer paratoi deunyddiau o'r fath
  6. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  7. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio'r cyfarpar gwaith
  8. pwysigrwydd nodi gwasanaethau tanddaearol ac uwchben a sut i adnabod y rhain
  9. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau a'r dulliau ar gyfer sefydlu a defnyddio gwaith dros dro
  10. goblygiadau â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefyliad i'ch gwaith
  11. y dulliau a'r technegau ar gyfer llunio a gosod strwythurau parhaol ar gyfer yr amgylchedd dŵr

  12. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn

  13. pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  14. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben

  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn

  16. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, a'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  17. y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt ac i bwy y dylid adrodd am y rhain
  18. yr amgylchiadau a allai effeithio ar y gweithrediad a'r camau cywir i'w cymryd mewn ymateb i amgylchiadau nas rhagwelwyd
  19. y mathau o niwed damweiniol neu lygredd a allai ddigwydd yn ystod y gweithrediadau a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd
  20. y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ganfyddiadau o ddiddordeb hanesyddol
  21. y ffyrdd y mae'n rhaid datgymalu gwaith dros dro yn ddiogel ac yn gywir
  22. sut i ddiogelu a chadw cynefinoedd a nodweddion hanesyddol yn ystod gweithgareddau clirio
  23. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr diogel, sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  24. y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amgylchiadau a allai effeithio ar weithrediadau:

  • peryglon safle
  • gwasanaethau
  • amodau gwaith
  • peiriannau'n torri lawr
  • cynefinoedd bywyd gwyllt
  • defnydd hamdden ac economaidd o'r amgylchedd dŵr
  • lefelau dŵr a glaw

Cyfarpar:

  • offer llaw
  • offer llaw trydan
  • peiriannau symudol
  • peiriannau dŵr

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle/asesiad o ddelwedd o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion cyfreithiol
  • canllawiau arfer da
  • gofynion cwsmeriaid
  • safon gofynnol y canlyniad
  • cyfarwyddiadau llafar

Deunyddiau:

  • concrid
  • geodecstiliau
  • dur
  • coed
  • carreg
  • balast
  • pridd uchaf
  • bric
  • blociau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Pysgodfeydd

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

Pontydd; ffosydd; coredau; cynalfuriau; ffensys concrid; amddiffynfeydd arfordirol