Asesu ac ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys asesu ac ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd. Mae'n cynnwys llifogydd gwirioneddol a rhai posibl, ac mae'n ymwneud â gwaith sy'n cael ei gwneud yn unigol neu fel rhan o dîm.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gallu asesu graddfa a datblygiad posibl y llifogydd a chynorthwyo i ffurfio a rhoi cynllun gweithredu ar waith.
Bydd angen i chi gysylltu a gweithio gyda phobl o sefydliadau eraill, fel y gwasanaethau brys ac awdurdodau gorfodi eraill.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion a gwirfoddolwyr sydd yn asesu ac yn ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cadarnhau bod y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- asesu a chofnodi graddfa'r llifogydd a'r graddau y mae'n debygol o ddatblygu
- cynnal arolygiadau o'r safle a dehongli'r wybodaeth sydd wedi ei chasglu
- cymryd camau i roi dulliau ar gyfer ymdrin â'r digwyddiad ar waith, sydd yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol, cyfarwyddiadau, gofynion sefydliadol ac amgylchiadau newidiol y digwyddiad
- ystyried yr effaith ar yr amgylchedd, bodau dynol a'r economi, yn ogystal ag ar iechyd a diogelwch pob person, a chyfradd yr ymateb
- parhau i gyfathrebu gydag aelodau'r cyhoedd, cydweithwyr, y gwasanaethau brys ac aelodau o awdurdodau gorfodi eraill
- dewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n bodloni'r manylebau gofynnol i ymdrin â'r digwyddiad
- monitro graddau ac effaith y digwyddiad yn erbyn yr ymateb sydd wedi ei drefnu a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i'r cynllun
- monitro effaith y dulliau a ddefnyddiwyd i ymdrin â'r digwyddiad
- adrodd ar effeithiolrwydd yr ymateb i'r digwyddiad a'r effaith y gallai hyn ei gael ar yr ardal sydd â risg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y mathau o ddigwyddiadau o lifogydd a allai ddigwydd yn y lleoliad a'r ymatebion gofynnol i ddigwyddiadau o'r fath
- sut i asesu graddfa'r llifogydd a'r graddau y mae'n debygol o ddatblygu
- y dulliau ar gyfer arolygu'r safle a dehongli'r wybodaeth am y safle
- y ffyrdd y gall digwyddiadau o lifogydd newid a'r ymateb gofynnol i newidiadau o'r fath
- y ffyrdd y mae cynlluniau'n cael eu cyflwyno i gynnwys yr offer angenrheidiol, ystyriaethau diogelwch a lles, llwybrau mynediad, gweithredoedd angenrheidiol, lefelau rhybudd o lifogydd a chynlluniau brys
- terfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas ag ymdrin â'r digwyddiad
- lefelau'r rhybudd o lifogydd a'r ymatebion perthnasol
- y ffyrdd y gallai'r ymateb i'r llifogydd effeithio ar yr amgylchedd a sut i addasu cynlluniau i ystyried yr ystyriaethau amgylcheddol
- y risg i iechyd sydd yn gysylltiedig â dŵr llygredig mewn llifeiriant a rhagofalon dadhalogi ac iechyd personol cysylltiedig
- sut i adnabod ac adrodd am broblemau llygredd posibl
- y ddeddfwriaeth a'r gofynion sefydliadol perthnasol sydd yn gysylltiedig â digwyddiadau o lifogydd
- sut i gyfathrebu gyda chydweithwyr, y gwasanaethau brys ac aelodau o awdurdodau gorfodi eraill
- y cyngor i'w roi i'r cyhoedd a sut dylid gwneud hyn
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n bodloni'r manylebau gofynnol i ymdrin â'r digwyddiad
- defnydd, cyfyngiadau a chyfundrefnau arolygu amddiffyniadau llifogydd dros dro
- y rhesymau pam y mae'n rhaid monitro'r digwyddiad a'r mathau o addasiadau y gallai fod eu hangen
- y mathau o rwystrau ac atalfeydd a allai ddigwydd
- y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd
Cwmpas/ystod
Digwyddiad:
- llifogydd gwirioneddol
- llifogydd posibl
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau ar gyfer ymdrin â llifogydd:
- sachau tywod
- atgyfnerthu glannau
- symud rhwystrau
- gweithredu rhwystrau amddiffyn
- clirio sgrîn
- amddiffyniadau paled
- ffensys