Nodi ardaloedd â risg o lifogydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys nodi ardaloedd â risg o lifogydd. Gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio GIS, mapiau, data arolygu, data hanesyddol a thrwy weithio gyda sefydliadau eraill. Gall achosion llifogydd fod yn rhai daear, afonol neu lawog.
Mae'r safon hefyd yn cynnwys creu mapiau perygl o lifogydd a mapiau risg o lifogydd fydd yn nodi maint posibl ardal y llifogydd a chanlyniadau llifogydd ar fodau dynol, yr economi leol a'r amgylchedd.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr y mae angen iddynt nodi meysydd â risg posibl o lifogydd. Mae'n berthnasol i waith sy'n cael ei wneud ar afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darllen a dehongli mapiau a graffiau i nodi meysydd â risg o lifogydd
- creu mapiau o ardaloedd â risg o lifogydd
- creu mapiau o ardaloedd â pherygl o lifogydd
- nodi ffynonellau gwahanol o lifogydd posibl
- asesu effaith llifogydd ar yr amgylchedd
- asesu'r effaith ar fodau dynol a'r economi yn sgîl llifogydd
- asesu graddau tebygol y llifogydd
- asesu achosion tebygol llifogydd
- gwerthuso'r risg o lifogydd
- gweithio gyda sefydliadau eraill i nodi risg penodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- natur holistaidd y cylch dŵr, yn cynnwys dŵr daear
- y creigwely, daeareg arwynebol a phriddoedd a'u dylanwad ar gyfraniad llif gwaelodol dŵr daear ar y dŵr wyneb
- y mathau o systemau draenio a gallu
- y systemau draenio cynaliadwy a'u defnydd
- sut i ddehongli mapiau a graffiau wrth nodi ardaloedd â risg o lifogydd
- sut i fapio peryglon llifogydd yn cynnwys graddau, dyfnder, cyfeiriad a chyflymder
- sut i fapio risg o lifogydd mewn perthynas ag effaith ddynol, economaidd ac amgylcheddol
- sut i ddefnyddio data hanesyddol ac arolygon yn nodi ardaloedd â risg o lifogydd
- y cynllun rheoli basn afon lleol
- sut i werthuso risg o ran llifogydd
- ffynonellau ac achosion posibl llifogydd
- y mathau o amddiffynfeydd a rheolaethau llifogydd a sut gellir eu defnyddio
- pwysigrwydd gweithio gyda sefydliadau eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mathau o ffynonellau ac achosion llifogydd:
- môr
- prif afonydd
- cronfeydd dŵr
- afonol (anallu cyrsiau dŵr naturiol i ymdopi â glaw eithafol)
- glawol (dŵr ffo uniongyrchol dros dir sy'n achosi llifogydd mewn ardaloedd nad ydynt yn flaenorol wedi bod yn gysylltiedig â chyrsiau dŵr naturiol neu artiffisial)
- dŵr daear (dŵr sydd islaw wyneb y ddaear ac mewn cyswllt
- uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd)