Monitro ac adrodd ar lefelau dŵr
URN: LANEnC14
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys monitro ac adrodd ar lefelau dŵr. Rydych fwyaf tebygol o wneud y gwaith hwn fel rhan o weithgareddau eraill eich gwaith fel addasu systemau lefel dŵr neu gynnal y cwrs dŵr.
Bydd angen eich bod yn gallu cymryd darlleniadau cywir gan ddefnyddio dull addas.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr sydd yn gysylltiedig â monitro ac adrodd ar lefelau dŵr fel rhan o'u swydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y lleoliad(au) gorau ar gyfer cael darlleniadau yn unol â'r cyfarwyddiadau, natur y tir a gofynion mynediad
- cael a chwblhau darlleniadau cywir ar yr adegau perthnasol
- cymryd y camau cywir i ddatrys y sefyllfa lle na ellir cael darlleniadau cywir yn hawdd
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
- gwneud y gwaith mewn ffordd sydd yn amharu cyn lleied â phosibl ar y safle a'r ardal gyfagos
- adrodd ynghylch lefelau dŵr o fewn y graddfeydd amser gofynnol
- creu adroddiadau sydd yn gywir ac yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad
- os oes niwed i'r amgylchedd yn cael ei nodi, gweithredu ar unwaith a hysbysu'r person perthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gweithredu'r gweithdrefnau brys cywir ar unwaith lle mae llifogydd gwirioneddol neu bosibl neu ddŵr yn gollwng yn cael ei nodi, ac adrodd am eich gweithredoedd i'r person perthnasol
- cwblhau a storio adroddiadau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y lleoliadau addas lle gellir cymryd darlleniadau o lefel y dŵr
- y cyfarwyddiadau ar gyfer cael gwybodaeth am lefelau dŵr
- sut i gael mynediad i leoliadau lle gellir cael darlleniadau o lefelau'r dŵr
- y rhesymau dros gymryd darlleniadau
- y rhesymau pam nad yw'n bosibl cymryd darlleniadau cywir
- sut i gael ac amcangyfrif lefelau a darllen deialau dŵr
- y ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol sydd yn gysylltiedig â monitro ac adrodd ar lefelau dŵr
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
- pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y cynefinoedd bywyd gwyllt a allai fod yn bresennol a sut i addasu'r gweithdrefnau yn unol â hynny
- sut i asesu a dehongli lefelau dŵr
- gofynion y sefydliad ar gyfer adrodd ar lefelau dŵr
- pa niwed amgylcheddol y gellir dod ar ei draws a'r ffordd y mae'n rhaid adrodd am hyn
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a'r ffordd orau o wneud hyn
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio adroddiadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithredoedd:
- amcangyfrif lefelau
- hysbysu pobl eraill
- cofnodi'r broblem
Darlleniadau:
- telemetreg awtomataidd/ar-lein
- â llaw
- defnyddio byrddau deial
- trwy weld
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEnC14
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystâd, Swyddog Rheoli Amgylcheddol
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
Lefelau dŵr; monitro