Cynnal a gwella lefelau dŵr a llif dŵr trwy reoli llystyfiant yn fecanyddol

URN: LANEnC13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a gwella lefelau dŵr a llif dŵr trwy reoli llystyfiant yn fecanyddol er mwyn gwella a chynnal gallu'r cwrs dŵr. Mae'n rhaid eich bod yn gallu rheoli'r glannau, llystyfiant sydd yn crogi drosodd a llystyfiant dyfrol.

Wrth weithio gydag offer trydan, peiriannau neu wrth daenu cemegion, mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr sydd yn cynnal ac yn gwella gallu'r cwrs trwy reoli llystyfiant. Mae'n berthnasol i waith sy'n cael ei wneud ar afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. cael mynediad i'r safle a gwneud gweithrediadau cynnal yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  4. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal y cyfarpar, y periainnau a'r PPE sy'n ofynnol, gan ei gadw mewn cyflwr glân a gweithredol trwy gydol y gwaith
  5. paratoi'r cyfarpar gwaith trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn ei ddefnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth, y cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  7. adnabod a chodi llystyfiant sydd yn effeithio ar lefelau dŵr a llif dŵr yn fecanyddol, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  8. codi llystyfiant yn ddiogel ac yn gywir gan adael gweddill y planhigion mewn cyflwr sydd yn cynnal ac yn cadw'r cynefin
  9. sicrhau bod eich dulliau gwaith yn bodloni unrhyw gyfyngiadau statudol ar weithrediadau oherwydd statws y safle
  10. cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
  11. ymdrin â gwastraff a deunydd dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol â'r gofynion eich sefydliad
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  14. gwella gallu'r cwrs dŵr trwy reoli llystyfiant yn fecanyddol yn y graddfeydd amser gofynnol

  15. cymryd y camau gofynnol os bydd argyfwng neu amgylchiadau na ellir eu rhagweld
  16. adnabod y cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasiadau i weithdrefnau gwaith ac adrodd am y rhain i'r person perthnasol
  17. adfer y safle i gyflwr diogel sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  18. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i gael mynediad i safleoedd yn ddiogel ac yn gywir
  4. y cyfarwyddiadau a'r manylebau ynghylch sut i wneud eich gwaith
  5. y niwed fyddai'n digwydd pe na byddai'r cwrs dŵr yn cael ei gynnal yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. y dulliau mecanyddol o reoli llystyfiant i wella lefelau dŵr a llif dŵr
  7. mesurau eraill o leddfu llifogydd sydd yn gysylltiedig â rheoli cwrs dŵr
  8. y mathau o gyfarpar, peiriannau a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a storio'r rhain yn ofalus ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  9. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio'r cyfarpar gwaith
  10. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
  11. sut i reoli mathau gwahanol o lystyfiant gan ddefnyddio gweithrediadau mecanyddol
  12. pryd y dylid codi llystyfiant wedi'i dorri a'r rhesymau pam (e.e. mae llystyfiant pwdr yn lleihau lefelau ocsigen mewn dŵr croyw)
  13. yr amgylchiadau a allai effeithio ar eich gwaith
  14. y camau i'w cymryd mewn ymateb i argyfyngau neu amgylchiadau newidiol
  15. y mathau o niwed damweiniol neu lygredd a allai ddigwydd yn ystod gweithrediadau a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd yn yr achosion hyn
  16. y ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol ar gyfer cynnal y cwrs dŵr
  17. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
  18. pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  19. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn

  21. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  22. y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt ac wrth bwy y dylid adrodd amdanynt

  23. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr diogel, sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  24. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amgylchiadau a allai effeithio ar y gwaith:

  • amodau amgylcheddol
  • cynefin bywyd gwyllt
  • statws diogelu'r safle
  • presenoldeb rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid
  • presenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu

  • llif dŵr

  • mynediad a defnydd hamdden o'r amgylchedd dŵr

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle/asesiad o ddelwedd o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion cyfreithiol
  • canllawiau arfer da
  • gofynion cwsmeriaid
  • safon y canlyniad sy'n ofynnol
  • cyfarwyddiadau llafar

     Peiriannau:

  • winshis

  • curwr gwair
  • asglodiwr
  • offer adfer
  • rhaca
  • bwced chwyn
  • llwythwr blaen

Dulliau:

  • clirio
  • teneuo

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Pysgodfeydd

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

afon; dyfrffordd; amgylchedd; dyfrol; llystyfiant