Cynnal a gwella lefelau dŵr a llif dŵr trwy weithrediadau mecanyddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a chadw a gwella lefelau dŵr a llif dŵr trwy gynnal y cwrs dŵr yn fecanyddol.
Mae'n rhaid eich bod yn gallu cynnal y cwrs dŵr trwy godi rhwystrau, ailffurfio glannau, gweithrediadau dadleidio a threillio. Mae'r safon hefyd yn cynnwys adfer y safle yn dilyn gweithrediadau cynnal.
Wrth weithio gydag offer llaw neu beiriannau mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr sydd yn cynnal ac yn gwella lefelau dŵr a llif dŵr trwy weithrediadau mecanyddol. Mae'n berthnasol i waith sy'n cael ei wneud ar afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cael mynediad i'r safle a gwneud gweithrediadau cynnal i wella lefelau dŵr a llif dŵr yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal y cyfarpar, y peiriannau a'r PPE sy'n ofynnol, a'i gadw mewn cyflwr glân a gweithredol trwy gydol y gwaith
- paratoi'r cyfarpar gwaith neu'r peiriannau trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn eu defnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, y cyfarwyddiadau a'r manylebau
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- codi malurion a rhwystrau yn ddiogel o'r dŵr, gyda'r niwed lleiaf i'r amgylchedd cyfagos a strwythurau gerllaw
- os bydd niwed damweiniol neu lygredd yn digwydd, cymryd camau ar unwaith i leihau'r effeithiau a hysbysu'r bobl berthnasol
- cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
- sicrhau bod eich y dulliau gwaith yn bodloni unrhyw gyfyngiadau statudol ar y gweithrediadau oherwydd statws y safle
- ymdrin â gwastraff a deunyddiau dros ben yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol â'r gofynion eich sefydliad
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- gwella gallu'r cwrs trwy gwblhau gweithrediadau cynnal mecanyddol o fewn y graddfeydd amser gofynnol
cymryd y camau gofynnol os bydd argyfwng neu amgylchiadau na ellir eu rhagweld
adnabod y cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasu gweithdrefnau gwaith, ac adrodd i'r person perthnasol am hyn
- adfer y safle i gyflwr diogel sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
- cwblhau'r cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i gael mynediad i safleoedd yn ddiogel ac yn gywir
- y cyfarwyddiadau a'r manylebau ynghylch sut i wneud eich gwaith
- y niwed fyddai'n digwydd pe na byddai'r cwrs dŵr yn cael ei gynnal yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- y dulliau mecanyddol o gynnal a gwella lefelau dŵr a llif dŵr
- mesurau eraill o leddfu llifogydd sydd yn gysylltiedig â rheoli'r cwrs
- y mathau o gyfarpar, peiriannau a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith, a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau gwaith
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a cherbydau ar y safle
- sut i godi malurion a rhwystrau o'r dŵr gan ddefnyddio gweithgareddau mecanyddol
- yr amgylchiadau a allai effeithio ar eich gwaith
- y camau i'w cymryd mewn ymateb i argyfyngau neu amgylchiadau newidiol
- y mathau o niwed damweiniol neu lygredd a allai ddigwydd yn ystod gweithrediadau a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd
- y gofynion deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cynnal y cwrs dŵr
- effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
- pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt a'r person perthnasol ar gyfer adrodd am y rhain
pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr diogel, sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amgylchiadau a allai effeithio ar y gwaith:
- amodau daear newidiol
- lefelau dŵr newidiol
- cynefin bywyd gwyllt
- llygredd oherwydd cynnal a chadw
- statws diogelu'r safle
- presenoldeb rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid
- presenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu
- niwed i wasanaethau
- mynediad
- defnydd hamdden o'r amgylchedd dŵr
Cyfarpar*:*
- * *
- bwcedi cloddio
- peiriannau dŵr
- peiriannau mecanyddol
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- mapiau safle/asesiad o ddelwedd o'r awyr
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cyfreithiol
- canllawiau arfer da
- gofynion cwsmeriaid
- safon y canlyniad sy'n ofynnol
- cyfarwyddiadau llafar
Gweithrediadau cynnal:
- codi malurion a rhwystrau
- ailffurfio glannau
- dadleidio
- treillio
- gwella cynefin glannau
- diogelu glannau