Cynnal a gwella gallu cwrs dŵr trwy reoli llystyfiant â llaw

URN: LANEnC11
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli llystyfiant â llaw er mwyn gwella a chynnal gallu'r cwrs dŵr. Mae'n rhaid eich bod yn gallu rheoli llystyfiant ar y glannau, sy'n crogi drosodd a llystyfiant dyfrol.

Wrth weithio gydag offer llaw, peiriannau neu wrth daenu cemegion, mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr sydd yn cynnal neu'n gwella gallu'r cwrs trwy reoli llystyfiant. Mae'n berthnasol i waith sy'n cael ei wneud ar afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. cael mynediad i'r safle a gwneud gweithrediadau cynnal yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  4. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a'r PPE sy'n ofynnol, gan gadw'r rhain mewn cyflwr glân a gweithredol trwy gydol y gwaith
  5. paratoi'r cyfarpar gwaith trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, y cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  7. adnabod a chodi llystyfiant sy'n effeithio ar y cwrs dŵr â llaw yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  8. codi llystyfiant yn ddiogel ac yn gywir gan adael y planhigion sy'n weddill mewn cyflwr sydd yn cynnal ac yn cadw'r cynefin
  9. cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
  10. sicrhau bod eich dulliau gwaith yn bodloni unrhyw gyfyngiadau statudol ar weithrediadau oherwydd statws y safle
  11. ymdrin â gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  14. gwella gallu'r cwrs trwy reoli llystyfiant â llaw o fewn y graddfeydd amser gofynnol
  15. cymryd y camau gofynnol os bydd argyfwng neu amgylchiadau na ellir eu rhagweld
  16. adnabod cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasiadau i weithdrefnau ac adrodd yn eu cylch i'r person perthnasol
  17. adfer y safle i gyflwr diogel sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  18. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i gael mynediad i safleoedd yn ddiogel ac yn gywir
  4. y cyfarwyddiadau a'r manylebau ynghylch sut i wneud eich gwaith
  5. y niwed fyddai'n digwydd pe na byddai'r cwrs dŵr yn cael ei gynnal yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. y dulliau llaw o reoli llystyfiant i gynnal a gwella gallu'r cwrs dŵr
  7. mesurau eraill ar gyfer lleddfu llifogydd sydd yn gysylltiedig â rheoli cyrsiau
  8. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  9. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio'r cyfarpar gwaith
  10. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
  11. sut i reoli mathau gwahanol o lystyfiant gan ddefnyddio gweithrediadau llaw
  12. ar ôl ei dorri, y dylid codi llystyfiant a'r rhesymau pam (e.e. mae llystyfiant pwdr yn lleihau lefelau ocsigen mewn dŵr croyw)
  13. yr amgylchiadau a allai effeithio ar eich gwaith
  14. y camau i'w cymryd mewn ymateb i argyfyngau neu amgylchiadau newidiol
  15. y mathau o niwed damweiniol neu lygredd a allai ddigwydd yn ystod gweithrediadau a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd
  16. pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  17. y ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol ar gyfer cynnal y cwrs dŵr
  18. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
  19. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  21. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  22. y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt ac i bwy y dylid adrodd ynghylch y rhain
  23. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr diogel, sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  24. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amgylchiadau a allai effeithio ar y gwaith:

  • amodau amgylcheddol
  • cynefin bywyd gwyllt
  • statws diogelu'r safle
  • presenoldeb rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid
  • presenoldeb rhywogaethau wedi eu diogelu
  • llif dŵr
  • mynediad a defnydd hamdden o'r amgylchedd dŵr

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle/delwedd asesu o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion cyfreithiol
  • canllawiau arfer da
  • gofynion y cwsmer
  • safon gofynnol y canlyniad
  • cyfarwyddiadau llafar

Dulliau:

  • clirio
  • teneuo

Llystyfiant:

  • llystyfiant glannau
  • crogi drosodd
  • rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid
  • coed wedi syrthio
  • malurion llystyfiant
  • llystyfiant dyfrol
  • llystyfiant sydd yn destun rheolaethau gwaredu

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LaNEnC11

Galwedigaethau Perthnasol

Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Pysgodfeydd

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

afon; glan; dyfrffordd; llystyfiant