Cynnal a gwella gallu cyrsiau dŵr gan ddefnyddio gweithrediadau llaw

URN: LANEnC10
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a gwella gallu cyrsiau dŵr gan ddefnyddio gweithrediadau llaw.  Bydd gweithrediadau llaw yn cynnwys tynnu malurion, ailffurfio glannau, dadleidio a rheoli trosglwyddiad dŵr.

Wrth weithio gydag offer neu gyfarpar trydan mae'n rhaid eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon ar gyfer cyflogeion neu wirfoddolwyr sydd yn cynnal ac yn gwella gallu'r cwrs gan ddefnyddio gweithrediadau llaw. Mae'n berthnasol i waith sy'n cael ei wneud ar afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. cael mynediad i'r safle a gwneud gweithrediadau cynnal yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  4. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a'r PPE angenrheidiol, gan gadw'r rhain yn lân ac mewn cyflwr gweithredol trwy gydol y gwaith
  5. paratoi'r cyfarpar gwaith trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn eu defnyddio, yn unol â'r ddeddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol

  6. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  7. symud malurion a rhwystrau yn ddiogel o'r dŵr, gan achosi'r niwed lleiaf posibl i'r amgylchedd cyfagos a strwythurau gerllaw
  8. os oes niwed damweiniol neu lygredd yn digwydd, cymryd camau ar unwaith i leihau'r effeithiau a hysbysu'r bobl berthnasol
  9. cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
  10. sicrhau bod eich y dulliau gwaith yn bodloni unrhyw gyfyngiadau statudol ar weithrediadau oherwydd statws y safle
  11. ymdrin â gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaewth berthnasol a gofynion eich sefydliad
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  14. gwella gallu'r cwrs trwy gwblhau gweithrediadau cynnal â llaw o fewn y graddfeydd amser gofynnol
  15. cymryd y camau gofynnol os bydd argyfwng neu amgylchiadau nas rhagwelwyd
  16. adnabod cyfleoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt trwy addasiadau i weithdrefnau gwaith a hysbysu'r person perthnasol am y rhain

  17. adfer y safle i gyflwr diogel sydd yn cyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos

  18. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i gael mynediad i safleoedd yn ddiogel ac yn gywir
  4. y cyfarwyddiadau a'r manylebau ynghylch sut i wneud eich gwaith
  5. y niwed fyddai'n digwydd pe na bai'r cwrs dŵr yn cael ei gynnal yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. y dulliau llaw o gynnal a gwella gallu'r cwrs dŵr
  7. mesurau lleddfu llifogydd eraill sydd yn gysylltiedig â rheoli cyrsiau
  8. y math o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  9. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio'r cyfarpar gwaith
  10. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
  11. sut i dynnu malurion a rhwystrau o'r dŵr gan ddefnyddio gweithrediadau llaw
  12. yr amgylchiadau a allai effeithio ar eich gwaith
  13. y camau i'w cymryd mewn ymateb i argyfyngau neu amgylchiadau newidiol
  14. y mathau o niwed damweiniol neu lygredd a allai ddigwydd yn ystod y gweithrediadau a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd
  15. y ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol ar gyfer cynnal y cwrs dŵr
  16. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
  17. pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  18. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn

  19. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben

  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo a'r ffordd orau o wneud hyn

  21. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

  22. y cyfleoedd a allai godi i wella cynefinoedd bywyd gwyllt ac i bwy y dylid adrodd ynghylch y rhain
  23. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr diogel, i gyd-fynd â'r amgylchedd cyfagos
  24. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amgylchiadau a allai effeithio ar y gwaith:

  • amodau amgylcheddol
  • cynefin bywyd gwyllt
  • statws wedi ei ddiogelu y safle
  • presenoldeb rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid
  • presenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu
  • llif dŵr
  • mynediad
  • defnydd hamdden o'r amgylchedd dŵr

Cyfarpar:

  • offer llaw
  • offer llaw trydan
  • cyfarpar winsio â llaw
  • systemau rheoli dŵr wedi eu gweithredu â llaw (e.e. rhwyfau, llifddorau, coredau)

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle/asesiad delwedd o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr

  • gofynion cyfreithiol

  • canllawiau arfer da
  • gofynion cwsmeriaid
  • safon y canlyniad gofynnol
  • cyfarwyddiadau llafar

Gweithrediadau cynnal:

  • codi malurion a rhwystrau
  • ailffurfio glannau

  • dadleidio

  • rheoli trosglwyddiad dŵr
  • gwella cynefin glannau afonydd

  • diogelu glannau afonydd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC10

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Pysgodfeydd

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

amgylchedd; llif dŵr; coredau; llifddorau