Hyrwyddo defnydd cyhoeddus cyfrifol o safleoedd awyr agored
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys hyrwyddo defnydd cyhoeddus cyfrifol o safleoedd awyr agored. Mae'n rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda'r cyhoedd sy'n ymweld â'r safle a gofalu am eu lles a'u diogelwch, yn ogystal â diogelu'r safle, ei gymeriad a'i gynnwys.
Dylech fod yn ymwybodol o fygythiadau gwirioneddol neu bosibl, peryglon neu dor-cyfraith, yn gyffredinol ac yn ymwneud yn benodol â'r safle lle'r ydych yn gweithio. Mae angen i chi hefyd wybod sut i drin tor-rheolau yn ymwneud â deddfwriaeth amgylcheddol yn ymwneud â rhywogaethau a safleoedd sy'n cael eu diogelu. Gallai hyn gynnwys hysbysu aelodau'r cyhoedd o'r peryglon a bod yn wyliadwrus ynghylch ymddygiad amheus.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer Swyddogion Cefn Gwlad, Rhodwyr, Wardeniaid, Rheolwyr Parciau, Rheolwyr Gerddi ac ati.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad
croesawu aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r safle yn unol â pholisïau eich sefydliad
hyrwyddo nodweddion a gwerth y safle awyr agored i wella eu mwynhâd a'u dealltwriaeth o'r safle a'i bwysigrwydd i'r amgylchedd
- darparu gwybodaeth yn glir ac ar fformat sydd yn addas i'r gynulleidfa a'u hannog i ofyn cwestiynau am y sefydliad
- rhoi cyfleoedd i ymwelwyr fynegi ac egluro eu gofynion a rhoi dulliau o gael cymorth iddynt
- gofalu am ymwelwyr yn unol â'u hanghenion a pholisïau eich sefydliad
- annog ymwelwyr i ddefnyddio'r safle'n gyfrifol, mewn ffordd sydd yn cyd-fynd â'i ddiben a'i gyflwr
- annog ymwelwyr i gynnal eu diogelwch eu hunain yn ystod ymweliadau â'r safle a'u gwneud yn ymwybodol o unrhyw beryglon
- annog ymwelwyr i gynyddu potensial eu hymweliad a manteisio ar yr hyn sydd gan y safle i'w gynnig ac unrhyw gyfleoedd i gynorthwyo cadwraeth natur
- gweithredu i reoli pwysau ymwelwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- nodi aelodau o'r cyhoedd a allai dorri'r gyfraith neu fod yn fygythiad a chymryd y camau angenrheidiol i leihau unrhyw niwed neu risg
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- annog adborth gan ymwelwyr am eu profiad o'r safle a chyfleu eich canfyddiadau i'r person perthnasol
- gwneud newidiadau mewn ymateb i adborth ym maes eich awdurdod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben a gwerth cyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad
- y codau ymarfer a gofynion eich sefydliad ar gyfer gofalu am ymwelwyr
- nodweddion a gwerth y safle awyr agored i'ch galluogi i ddarparu gwybodaeth ac ymateb i ymholiadau
- y ffyrdd y mae arddulliau cyfathrebu'n cael eu haddasu yn unol â'r gynulleidfa a'r lleoliad
- y ffynonellau gwybodaeth am y safle a'ch sefydliad
- sut i nodi anghenion y cyhoedd, a phryd i ymgysylltu a chynnig cyngor neu gymorth
- yr ystod o ymwelwyr y gellir dod ar eu traws
- at bwy i gyfeirio ymwelwyr pan nad ydych yn gallu rhoi cymorth
- pam y gallai fod gan y sefydliad bolisïau mynediad penodol neu ardaloedd dynodedig ar gyfer mynediad cyhoeddus
- pwysigrwydd annog ymwelwyr i gynnal eu diogelwch tra'n defnyddio'r safle a'u gwneud yn ymwybodol o unrhyw beryglon
- anghenion y safle a'r effeithiau y gallai ymwelwyr eu cael arno
- pwysigrwydd cydbwyso anghenion y safle gydag anghenion ymwelwyr, a'r camau i'w cymryd i reoli pwysau gan ymwelwyr
- y ddeddfwriaeth yn ymwneud â throseddau yn erbyn bywyd gwyllt a pham mae angen hyn
- y bygythiadau y gallai'r cyhoedd eu cyflwyno i safleoedd
- sut i drin aelodau'r cyhoedd sy'n achosi bygythiad i safleoedd
- gweithdrefn y sefydliad ar gyfer trin tor-cyfraith
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
sut i gael a monitro adborth gan y cyhoedd
- terfynau eich awdurdod a'ch cymhwysedd ac at bwy i fynd os oes angen cyngor neu arweiniad arnoch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Tor-cyfraith:
- lladrad
- niwed troseddol
- ymosodiad
- troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
- tresmasu
- erlid bywyd gwyllt
Bygythiadau:
- i'r safle a'i gynnwys
- i fflora a ffawna
- i'ch iechyd, diogelwch neu ddiogeledd personol
- i iechyd, diogelwch a diogeledd pobl eraill
Gwerth safleoedd awyr agored:
- gwerth cymdeithasol
- gwerth economaidd
- gwerth cynhenid (aer glân/lleihau CO2, cyfalaf naturiol)
- iechyd a lles
Ymwelwyr:
- oedolion
- plant a phobl ifanc
- teuluoedd
- llai abl ac agored i niwed
- grwpiau diddordeb cyffredinol
- grwpiau diddordeb arbennig
- defnyddwyr hamdden
- y rheiny â gofynion arbennig
- y rheiny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf