Cynnal archwiliad Amgylcheddol sefydliadol ac adrodd ar y canfyddiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cynnal archwiliad amgylcheddol sefydliadol. Mae'n cynnwys cynnal yr archwiliad, adrodd ar ganfyddiadau'r archwiliad a gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr sydd yn gyfrifol am reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
- Archwiliwr amgylcheddol
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon yma'n cynnwys cynnal yr archwiliad i fodloni'r amcanion gofynnol ac ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig neu wedi eu heffeithio gan yr archwiliad.
Mae hefyd yn cynnwys adolygu canfyddiadau'r archwiliad i greu adroddiad. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu canfyddiadau'r archwiliad ac unrhyw feysydd a argymhellir ar gyfer gwelliant, gyda'r rheiny sydd yn gyfrifol am weithredu'r camau hyn.
Mae'n rhaid i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â chynnal archwiliad amgylcheddol sefydliadol ystyried cyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd y cynnyrch, gwasanaethau a'r gweithgareddau y mae'r sefydliad yn eu cynnig. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon y cynnyrch a'r gwasanaethau.
Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt fod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu'r effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynnal archwiliad amgylcheddol sefydliadol yn unol ag amcanion a mesurau llwyddiant yr archwiliad
- Casglu a dilysu tystiolaeth archwiliad wrthrychol trwy gyfweliadau â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, arsylwi ac adborth o ddogfennau
- Tra'n cynnal yr archwiliad amgylcheddol, cyfathrebu gyda rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, gan ddefnyddio'r dulliau addas sydd yn ofynnol gan y broses archwilio
- Cofnodi canfyddiadau'r archwiliad yn y fformat gofynnol
- Creu canfyddiadau archwiliad a pharatoi casgliadau yn unol ag amcanion yr archwiliad a'r mesur llwyddiant
- Adrodd canfyddiadau archwiliad amgylcheddol sefydliadol yn erbyn yr amcanion a nodir mewn ffordd addas
- Nodi meysydd o arfer da sefydliadol ac argymell meysydd ar gyfer gwella ar berfformiad amgylcheddol y sefydliad yn seiliedig ar ganfyddiadau'r archwiliad
- Cytuno ar unrhyw weithredoedd sydd yn deillio o'r archwiliad amgylcheddol gyda'r person(au) sydd yn gyfrifol yn y sefydliad am weithredu'r camau
- Olrhain gweithredoedd sydd heb eu cyflawni gyda'r person(au) sydd yn gyfrifol yn y sefydliad am weithredu'r camau
- Dosbarthu'r adroddiad i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
* *
- Y mathau gwahanol o archwiliadau amgylcheddol a rôl archwiliadau a sefyllfaoedd lle maent yn berthnasol
- Y cyfnodau yn y broses archwilio amgylcheddol
- Y technegau archwilio y gellir eu defnyddio wrth gynnal archwiliad amgylcheddol sefydliadol a'r rhesymau dros eu dewis
- Agweddau'r sefydliad fydd yn cael eu harchwilio a'r ffynonellau gwybodaeth perthnasol
- Sut i nodi a chael unrhyw arbenigedd archwilio ychwanegol a phryd mae ei angen
- Sut i ddiffinio'r lefel ofynnol o gyswllt ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig
- Y mathau o ddulliau wrth gysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, yn ystod ac ar ôl yr archwiliad
- Sut i gael mynediad at a chofnodi canfyddiadau archwiliad amgylcheddol yn unol ag amcanion yr archwiliad
- Sut i werthuso prosesau amgylcheddol y sefydliad a pherfformiad yn erbyn amcanion yr archwiliad
- Sut i werthuso canfyddiadau archwilio yn erbyn amcanion a mesurau llwyddiant yr archwiliad
- Cynnwys adroddiad archwilio amgylcheddol sefydliadol cyflawn
- Sut i ddeillio argymhellion ar gyfer gweithredu o ganfyddiadau archwiliad
- Pryd i olrhain gweithredoedd heb eu cyflawni gyda'r rheiny sydd yn gyfrifol yn y sefydliad am weithredu'r camau hynny
- Sut i ddosbarthu'r adroddiad i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig