Cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol. Mae polisi Rheolaeth Amgylcheddol yn ddatganiad ysgrifenedig yn crynhoi bwriadau'r sefydliad yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol, ôl troed carbon, prynu moesegol, cynaliadwyedd ac ymgysylltu cymunedol lleol a llawer mwy.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
Unrhyw un sydd yn cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
Mae'r safon hon yn cynnwys cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol gyda'r bwriad o argymell gwelliannau.
Mae hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig ag asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol.
Dylai'r ffocws ar gyfer gwerthuso ac argymell gwelliannau i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ddeillio o iechyd ac effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn deillio o broses gylchol, arloesol, lle nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, a bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu, ei werthfawrogi a'i adfer mewn ffyrdd sydd yn gwella cadernid cymdeithas. Mae angen i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol ganolbwyntio ar y ffordd y gallwn ddatgysylltu o ddefnyddio adnoddau a gosod safon ar gyfer cymdeithas ddiogel a chynaliadwy.
Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt fod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith garbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Cyfrannu at nodi polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol a all fod angen asesiad effaith a gwerthusiad ar gyfer gwella
2. Cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau mewnol ac allanol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
3. Cyfrannu at gynnal Asesiadau Effaith perthnasol ar y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol a nodir i nodi unrhyw effeithiau tebygol neu wirioneddol y gallai y polisïau eu cael
4. Cyfrannu at nodi bylchau, hepgoriadau a gwelliannau i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol
5. Cyfrannu at gofnodi'r canfyddiadau mewn fformat sydd yn bodloni gofynion sefydliadol a'r technegau gorau sydd ar gael, yn seiliedig ar ddulliau cofnodi cydnabyddedig a deddfwriaeth berthnasol
6. Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, ar gynnwys y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
7. Cyfrannu at adolygu'r adborth gan randdeiliaid i gynorthwyo'r gwaith o baratoi'r argymhellion
8. Cyfrannu at baratoi argymhellion yn seiliedig ar y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
9. Cadarnhau bod yr argymhellion yn seiliedig ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad, deddfwriaeth berthnasol a'u bod yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill
10. Cyfrannu at sicrhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn cynnwys ymrwymiad i welliant parhaus mewn perfformiad amgylcheddol sefydliadol
11. Cyfrannu at sicrhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn darparu fframwaith ar gyfer amcanion amgylcheddol
12. Cyfrannu at sicrhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn berthnasol inatur a graddfa'r sefydliad a'u bod yn y fformat sydd yn ofynnol ar gyfer rhandeiliaid, yn cynnwys uwch rheolwyr ac arweinwyr
13. Ymgysylltu a chyfathrebu argymhellion y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
14. Cyfrannu at nodi mesurau ar gyfer monitro a yw'r argymhellion ar gyfer polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn weithredol
15. Gwneud cais am adborth parhaus gan randdeiliaid ar gynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Diben polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
2. Y mathau o ganllawiau yn ymwneud â chynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
3. Agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
4. Gofynion deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r sefydliad a pholisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
5. Yr ymrwymiadau sefydliadol presennol sydd yn berthnasol i'r agweddau a'r effeithiau amgylcheddol a chynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
6. Y systemau, offer a'r dulliau sefydliadol sydd wedi eu sefydlu, os o gwbl, ar gyfer cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
7. Y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y mae'n ofynnol iddynt adolygu polisïau rheolaeth amgylcheddol sefydliadol perthnasol
8. Y mathau o Asesiadau Effaith sydd yn ofynnol i werthuso ac asesu effaith y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol
9. Sut i adnabod meysydd lle gellir gwella polisïau ac ymrwymiadau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
10. Pwysigrwydd cofnodi canfyddiadau ar fformat perthnasol
11. Sut i ddefnyddio'r canfyddiadau o adolygiad polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol ac ymrwymiadau sefydliadol i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r polisïau
12. Sut i ymgysylltu a chyfathrebu argymhellion ar bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
13. Y mathau o fesurau ar gyfer monitro a yw'r polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn weithredol
14. Pwysigrwydd gwelliant parhaus yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesiadau Effaith:
Asesu Effaith ar Gydraddoldeb (ar bobl yn ymwneud ag anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu oed)
Asesu Effaith Reoliadol
Asesu risg
Asesu Effaith ar Iechyd a Hawliau Dynol
Asesu Effaith Amgylcheddol