Cyfrannu at ddatblygiad polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â chyfrannu at ddatblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd. Mae polisi Rheolaeth Amgylcheddol yn ddatganiad ysgrifenedig sydd yn crynhoi bwriadau'r sefydliad yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol, ôl troed carbon, prynu moesegol, cynaliadwyedd, ymgysylltu cymunedol lleol a llawer mwy.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
Unrhyw un sydd yn cyfrannu at ddatblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd.
Mae'r safon hon yn cynnwys cyfrannu at ddatblygiad polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, naill ai'n seiliedig ar adolygu a gwerthuso polisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau amgylcheddol y sefydliad neu yn achos sefydliad newydd, mewn ymgynghoriad ag uwch reolwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill.
Mae hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig â datblygu polisi amgylcheddol newydd, cyn, yn ystod ac ar ôl ei ddatblygiad.
Dylai'r ffocws ar gyfer polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd ddeillio o iechyd ac effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ddeillio o broses gylchol, arloesol lle nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, ac mae bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu, ei werthfawrogi a'i adfer mewn ffyrdd sydd yn gwella cadernid cymdeithas. Mae angen i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol ganolbwyntio ar y ffordd y gallwn ddatgysylltu o'r defnydd o adnoddau a gosod safon ar gyfer cymdeithas ddiogel a chynaliadwy.
Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol.
Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfrannu at nodi unrhyw bolisïau amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
- Cyfrannu at adolygu a gwerthuso unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau sefydliadol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau arwyddocaol y sefydliad
- Cyfrannu at gynnal Asesiadau Effaith perthnasol ar unrhyw bolisïau amgylcheddol sefydliadol a nodir i nodi unrhyw effeithiau tebygol neu wirioneddol y gallai'r polisïau fod wedi eu cael ar berfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Cyfrannu at nodi bylchau, hepgoriadau a gwelliannau i unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau sefydliadol
- Cyfrannu at gofnodi'r canfyddiadau mewn fformat sydd yn bodloni gofynion sefydliadol a'r dechneg orau sydd ar gael yn seiliedig ar ddulliau cofnodi cydnabyddedig a deddfwriaeth berthnasol
- Cyfrannu at baratoi drafft o'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, yn seiliedig ar eich canfyddiad ac agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
- Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o'r nodweddion gwarchodedig, ar gynnwys y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft
- Cyfrannu at adolygu'r adborth gan randdeiliaid perthnasol i gynorthwyo'r gwaith o ddiweddaru'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft lle bo angen
- Cyfrannu at baratoi fersiwn terfynol o'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, yn seiliedig ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad, a'i fod yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill
- Ymgysylltu a chyfathrebu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd i randdeiliaid, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
- Cyfrannu at nodi mesurau ar gyfer monitro a yw'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn weithredol
- Gwneud cais am adborth parhaus gan randdeiliaid perthnasol ar gynnwys y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Gweledigaeth amgylcheddol y sefydliad a ble maent yn dymuno bod
2. Diben y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd
3. Agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
4. Gofynion deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r sefydliad a'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd
5. Polisïau sefydliadol presennol ac ymrwymiadau sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
6. Pwysigrwydd adolygu a gwerthuso polisïau amgylcheddol ac ymrwymiadau sefydliadol presennol
7. Sut i adnabod meysydd lle gellir gwella polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol presennol
8. Pwysigrwydd cofnodi canfyddiadau ar fformat sydd yn bodloni gofynion y sefydliad a sut i ddefnyddio'r canfyddiadau i gynorthwyo drafftio'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd
9. Sut i gynhyrchu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd sydd yn berthnasol i natur a graddfa'r sefydliad
10. Fformat gofynnol y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd
11. Y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y mae'n ofynnol iddynt adolygu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft
12. Pwysigrwydd adolygu adborth gan randdeiliaid perthnasol wrth ddiweddaru'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft
13. Pwysigrwydd paratoi fersiwn terfynol y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol, yn seiliedig ar yr agweddau a'r effeithiau arwyddocaol a nodir, canfyddiadau unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol, adborth gan randdeiliaid, deddfwriaeth berthnasol ac sydd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill
14. Pwysigrwydd gwelliant parhaus sefydliadol o ran perfformiad amgylcheddol
15. Sut i ymgysylltu a chyfathrebu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
16. Y mathau o fesurau ar gyfer monitro a yw'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn weithredol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesiadau Effaith:
Asesu Effaith ar Gydraddoldeb (ar bobl yn ymwneud ag anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu oed)
Asesu Effaith Reoliadol
Asesu Risg
Asesu Effaith ar Iechyd a Hawliau Dynol
Asesu Effaith Amgylcheddol