Datblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

URN: LANEM3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â datblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd.  Mae polisi rheolaeth amgylcheddol yn ddatganiad ysgrifenedig yn crynhoi bwriadau'r sefydliad yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol, ôl troed carbon, prynu moesegol, a chynaliadwyedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

·       Unrhyw un sydd yn gyfrifol am ddatblygu Polisi Rheolaeth Amgylcheddol newydd.

Mae'r safon hon yn cynnwys creu polisi rheolaeth amgylcheddol sefydliadol newydd, yn seiliedig ar adolygu a gwerthuso unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol neu yn achos sefydliad newydd, mewn ymgynghoriad ag uwch reolwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Mae hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu gyda rhanddeiliaid, uwch reolwyr neu dimau rheoli, cyn, yn ystod ac ar ôl datblygu'r polisi rheolaeth amgylcheddol sefydliadol newydd.

Dylai'r ffocws ar gyfer polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd ddeillio o iechyd ac effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn tarddu o broses arloesol, gylchol lle nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, ac mae bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu, ei werthfawrogi a'i adfer mewn ffyrdd sydd yn gwella cadernid cymdeithas.  Mae angen i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol ganolbwyntio ar y ffordd y gallwn ddatgysylltu o'r defnydd o adnoddau a gosod safon ar gyfer cymdeithas ddiogel a chynaliadwy.

Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Nodi gweledigaeth amgylcheddol y sefydliad o'r man yr hoffent fod

2.  Nodi'r canlyniadau ar gyfer y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

3.  Nodi'r effeithiau allanol, y dylanwadau a'r materion y mae angen i'r sefydliad eu hystyried wrth ddatblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

4.  Nodi agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

5.  Nodi unrhyw bolisïau ac ymrwymiadau sefydliadol presennol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

6.  Gwneud gwaith sydd yn berthnasol i Asesiadau Effaith ar unrhyw bolisïau amgylcheddol sefydliadol a nodir i nodi unrhyw effeithiau tebygol neu wirioneddol y gallai'r polisïau fod wedi eu cael ar berfformiad amgylcheddol sefydliadol

7.  Nodi bylchau, hepgoriadau a gwelliannau i unrhyw bolisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol presennol

8.  Cadarnhau dilysrwydd eich canfyddiadau, cofnodi ar fformat sydd yn bodloni gofynion sefydliadol a'r dechneg orau sydd ar gael yn seiliedig ar gydnabod dulliau cofnodi cydnabyddedig a deddfwriaeth berthnasol

9.  Paratoi drafft o'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, yn seiliedig ar eich canfyddiadau ac agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

10.  Adnabod rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o'r nodweddion gwarchodedig a chael eu safbwyntiau am gynnwys y polisi Rheolaeth Amgylcheddol drafft

11.  Adolygu adborth gan randdeiliaid perthnasol a diweddaru'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol drafft lle bo angen

12.  Paratoi fersiwn terfynol o'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd a chadarnhau ei fod yn seiliedig ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad, a'i fod yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill

13.  Cadarnhau bod y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn cynnwys ymrwymiad i welliant parhaus mewn perfformiad amgylcheddol

14.  Cadarnhau bod y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newyddyn darparu fframwaith ar gyfer yr amcanion amgylcheddol

15.  Cadarnhau bod y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn berthnasol i natur a graddfa'r sefydliad a'i fod ar fformat addas ar gyfer rhanddeiliaid, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr

16.  Ymgysylltu a chyfathrebu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr

17.  Nodi mesurau ar gyfer monitro a yw'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn gweithio

18.  Gwneud cais am adborth parhaus gan randdeiliaid perthnasol ar gynnwys y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Gweledigaeth amgylcheddol y sefydliad a ble maent yn dymuno bod

2.  Diben y polisi rheolaeth amgylcheddol sefydliadol newydd

3.  Agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

4.  Gofynion deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r sefydliad a'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

5.  Polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol presennol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

6.  Pwysigrwydd adolygu a gwerthuso polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol presennol

7.  Sut i adnabod meysydd lle gellir gwella polisi ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol presennol

8.  Pwysigrwydd cadarnhau dilysrwydd y canfyddiadau a'r fformat perthnasol ar gyfer cyflwyno'r canfyddiadau

9.  Sut i ddefnyddio'r canfyddiadau o'r adolygiad o bolisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol perthnasol i helpu i ddrafftio'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

10.  Sut i greu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd sydd yn berthnasol i natur a graddfa'r sefydliad

11.  Fformat gofynnol y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

12.  Pwy yw'r rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y mae'n ofynnol iddynt adolygu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft

13.  Pwysigrwydd adolygu adborth gan randdeiliaid perthnasol wrth ddiweddaru'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft

14.  Pwysigrwydd paratoi fersiwn terfynol polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol, yn seiliedig ar yr agweddau a'r effeithiau arwyddocaol a nodwyd, canfyddiadau o bolisïau amgylcheddol sefydliadol presennol, adborth rhanddeiliaid, deddfwriaeth berthnasol a chyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill

15.  Pwysigrwydd gwelliant sefydliadol parhaus yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol

16.  Sut i sicrhau bod y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn darparu fframwaith ar gyfer amcanion amgylcheddol

17.  Sut i ymgysylltu a chyfathrebu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr

18.  Y mathau o fesurau ar gyfer monitro a yw'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn gweithredu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Asesiadau Effaith:

Asesu Effaith ar Gydraddoldeb (ar bobl yn ymwneud ag anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu oed)

Asesu Effaith Reoliadol

Asesiad Risg

Asesu Effaith ar Iechyd a Hawliau Dynol

Asesu Effaith Amgylcheddol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Amgylcheddol, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Polisi Amgylcheddol, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd