Cynorthwyo systemau’r sefydliad i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i’r amgylchedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth i gefnogi systemau sefydliadau i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd. Mae'n berthnasol i aer, dŵr, ac amgylcheddau ar y tir. Gall llygrwyr fod yn gemegol, yn sŵn, golau, dirgryniad, nwyon, llaid, biswail, ymbelydredd, gwres, dŵr ffo ar bridd, gronynnau, llwch. Gall atal a rheoli olygu mabwysiadu plaladdwyr llai niweidiol yn amgylcheddol, monitro allyriadau, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu, cynnal yn y ffynhonnell, draeniad, tanciau cynnal, tampio.
Mae'n rhaid eich bod yn gallu adnabod effeithiau posibl llygredd o'ch sefydliad ar yr amgylchedd, cynorthwyo'r gwaith o asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â systemau sefydliadol i atal a rheoli llygrwyr, yn ogystal â datblygu cynlluniau wrth gefn mewn digwyddiad o lygru. Gallai hyn olygu hysbysu a gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill, asiantaethau'r llywodraeth.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gysylltiedig â chefnogi'r systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi'r effaith bosibl y gallai eich sefydliad yn rhyddhau llygrwyr ei chael ar yr amgylchedd
- Cynorthwyo'r asesiad o'r risg i gydweithwyr, cymunedau lleol a'r cyhoedd, sydd yn gysylltiedig â systemau sefydliadol ar gyfer atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Cefnogi'r gwaith o weithredu systemau atal a rheoli llygrwyr sefydliadol a sicrhau nad oes unrhyw effaith niweidiol ar yr amgylchedd, cymunedau lleol, nodweddion hanesyddol, tirweddau lleol, a bywyd gwyllt
- Cefnogi cydymffurfiad y sefydliad â rheoliadau a deddfwriaethau perthnasol i atal mesurau gorfodi rhag cael eu cychwyn
- Cefnogi datblygiad cynlluniau wrth gefn mewn digwyddiad o lygru sefydliadol
- Cadarnhau bod adroddiadau digwyddiadau yn gyflawn a dilyn gofynion deddfwriaeth a sefydliadol perthnasol
- Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud â'r systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr a'r cynlluniau wrth gefn os oes digwyddiad i helpu i leddfu digwyddiadau o lygredd
- Rhoi mesurau rheoli ar waith i ddiogelu pobl a chreu amgylchedd gwaith diogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr effeithiau posibl y gallai eich sefydliad yn rhyddhau llygrwyr eu cael ar yr amgylchedd
- Y mathau o risgiau i gydweithwyr, cymunedau lleol a'r cyhoedd sydd yn gysylltiedig â'r systemau sefydliadol ar gyfer atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Y mathau o systemau atal a rheoli llygrwyr a ddefnyddir gan eich sefydliad
- Y mathau o effeithiau niweidiol y gall y systemau rheoli ac atal llygrwyr sefydliadol eu cael ar yr amgylchedd, cymunedau lleol, nodweddion hanesyddol, tirweddau lleol a bywyd gwyllt
- Y rheoliadau a'r deddfwriaethau perthnasol yn ymwneud ag atal a rheoli llygrwyr a sut i weithredu arnynt
- Perthnasedd cynllun wrth gefn mewn digwyddiad o lygredd sefydliadol a sut i ddatblygu un
- Pwysigrwydd adroddiadau digwyddiad o lygredd a sut i'w cwblhau gan ddilyn deddfwriaeth a gofynion sefydliadol perthnasol
- Pwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud â'r systemau atal a rheoli llygredd a'r cynlluniau wrth gefn os oes digwyddiad
- Sut i gyfathrebu polisïau iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a chadarnhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Digwyddiadau o lygredd: rhyddhau nwyon, rhyddhau cemegau, gollyngiadau biswail, golau, ymbelydredd, sŵn, dirgryniad, rheoli gwastraff; cywasgiad pridd, ansawdd dŵr gwael