Cynllunio, datblygu, a monitro systemau sefydliadol i atal a rheoli’r posibilrwydd o lygrwyr yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cynllunio, datblygu, gweithredu a monitro systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd. Mae'n rhaid atal neu reoli llygrwyr yn ymwneud â hylifau, cemegau, llaid, gwres, bacteria, nwyon, silwair, gwrtaith organig, dŵr ffo o'r pridd ac erydiad, a gronynnau llwch, trwy systemau ataliaeth a rheolaeth wedi eu cynllunio.
Mae'n rhaid i'ch gwaith i gynllunio, datblygu a gweithredu systemau i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd gael ei wneud mewn ffordd sydd yn lleihau unrhyw effaith amgylcheddol niweidiol.
Wrth greu systemau i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr, mae angen i ni ystyried yr angen i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd adnoddau, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.
Mae'r safon hon yn addas i bawb sydd yn gysylltiedig â rheoli llygredd mewn sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â llygrwyr sydd yn cael eu creu gan y sefydliad
- Nodi natur, graddfa ac effaith bosibl digwyddiad o lygru a achosir gan y sefydliad
- Cynllunio a datblygu systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Cynllunio a datblygu systemau sefydliadol ar gyfer atal a rheoli llygrwyr sydd yn gwella'n weledol wrth iddynt ddiogelu'r amgylchedd
- Amcangyfrif a chyllidebu'r adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer gweithredu systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Cadarnhau bod unrhyw systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr yn bodloni deddfwriaeth, rheoliadau a chyfarwyddebau amgylcheddol
- Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig yn ymwneud â chynllunio, datblygu a gweithredu systemau sefydliadol
- Gwerthuso adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â systemau sefydliadol
- Gweithredu'r system sefydliadol ar gyfer atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Monitro'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol yn barhaus
- Cydgrynhoi adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â monitro'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol
- Cofnodi'r canfyddiadau a rhoi gwelliannau ar waith i system atal a rheoli llygrwyr y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â llygrwyr sydd yn cael eu creu gan y sefydliad
- Sut i ddatblygu gweithdrefnau cynllunio brys
- Effeithiau posibl cynnyrch sefydliadau ar yr amgylchedd a sut gellir lleihau'r rhain
- Cosbau posibl achosi llygredd
- Sut i gynllunio a datblygu systemau sefydliadol i atal a rheoli'r posibilrwydd o ryddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Pwysigrwydd datblygu system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol sydd yn gwella'r amgylchedd yn weledol yn ogystal â'i ddiogelu
- Sut i amcangyfrif a chyllidebu'r adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer gweithredu'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol
- Pwysigrwydd dewis adnoddau sydd naill ai'n lleihau neu'n cyfyngu ar yr effaith amgylcheddol y mae'r sefydliad yn ei gael wrth weithredu'r system atal a rheoli llygrwyr
- Y ddeddfwriaeth, rheoliadau a'r cyfarwyddebau amgylcheddol perthnasol sydd yn berthnasol i weithredu system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol
- Pwysigrwydd parhau i gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol wrth ddatblygu a gweithredu'r system sefydliadol
- Sut i werthuso adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â datblygu a gweithredu'r system sefydliadol
- Sut i weithredu'r system sefydliadol ar gyfer atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
- Pwysigrwydd monitro'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol yn barhaus
- Pwysigrwydd cydgrynhoi adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â monitro'r system sefydliadol
- Sut i gofnodi'r canfyddiadau a rhoi gwelliannau ar waith i'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol