Nodi ac adolygu effaith gweithgareddau ar yr amgylchedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer nodi ac adolygu effaith gweithgareddau ar yr amgylchedd. Mae'n cynnwys y ddealltwriaeth o arferion a pholisïau amgylcheddol sydd yn effeithio arnoch chi, a'ch gallu i nodi ble y gellir gwneud gwelliannau. Mae hefyd yn cynnwys gwybod a yw gweithgareddau yn unol ag arferion amgylcheddol ac yn annog datblygiad ymwybyddiaeth amgylcheddol y rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw, neu wedi eu heffeithio gan eich gwaith.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell cyntaf a gweithwyr sydd yn cefnogi ymwybyddiaeth o berfformiad amgylcheddol y sefydliad a'i wella. Mae hefyd yn berthnasol i ungolion sydd angen deall effaith eu gweithgareddau ar yr amgylchedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi'r polisïau a'r arferion sydd yn berthnasol i'ch gweithgareddau
- Nodi sut mae eich gweithgareddau yn effeithio ar yr amgylchedd
- Adolygu effaith gadarnhaol a negyddol eich gweithgareddau ar yr amgylchedd
- Adrodd ar eich canfyddiadau i'r rhanddeiliad perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig
- Cynorthwyo pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo i ddatblygu a chynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol
- Datblygu gweithgareddau sydd yn cefnogi'r amgylchedd
- Cynnal gweithgareddau a defnyddio adnoddau sydd yn cefnogi'r amgylchedd
- Nodi cyfleoedd i leihau'r effaith negyddol a gwella'r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
- Cyfathrebu buddion gweithredu a chynnal gweithgareddau sydd yn cefnogi'r amgylchedd
- Annog adborth gan randdeiliaid perthnasol ar yr effaith y mae'r gweithgareddau yn ei gael ar yr amgylchedd
- Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y newidiadau i weithgareddau gwaith a defnyddio'r canfyddiadau i lywio ymarfer yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol sydd yn effeithio ar eich gweithgareddau
- Polisïau presennol y gweithle neu bolisïau amgylcheddol eraill sydd yn berthnasol i'ch gweithgareddau
- Y materion amgylcheddol penodol sydd yn berthnasol i'ch maes gwaith
- Effaith eich gwaith neu weithgareddau eraill ar yr amgylchedd a sut i adolygu a ydynt yn cael effeithiau cadarnhaol neu negyddol
- Y term "effaith gadarnhaol a negyddol "
- Eich rôl, cyfrifoldeb a therfynau eich awdurdod yn ymwneud ag ymarfer amgylcheddol
- Y cyfraniad y gallwch ei wneud i arfer da amgylcheddol y sefydliad
- Y buddion i'r sefydliad a'r amgylchedd o wella perfformiad amgylcheddol y gweithgareddau
- Eich cyfrifoldebau cymdeithasol mewn perthynas ag ymarfer amgylcheddol
- Y ffynonellau gwybodaeth allanol a mewnol ac arweiniad ar ymarfer amgylcheddol
- Sut i nodi meysydd lle gellir gwella ymarfer amgylcheddol
- Y ffactorau a allai gyfyngu ar welliannau i berfformiad amgylcheddol y gweithgareddau
- Pwysigrwydd trefnu gweithgareddau sydd yn bodloni'r polisïau amgylcheddol sefydliadol a nodwyd
- Pwysigrwydd dewis adnoddau sydd yn lleihau'r effaith amgylcheddol
- Sut i gyfathrebu arferion amgylcheddol i randdeiliaid perthnasol a chael adborth
- Y ffyrdd gwahanol o ddylanwadu ar randdeiliaid perthnasol (mewnol ac allanol) a'u hysgogi i wella perfformiad amgylcheddol
- Y ffyrdd gwahanol o fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau mewn perfformiad amgylcheddol