Rheoli’r gwaith o gyfathrebu’r Datganiad Amgylcheddol terfynol ar gyfer datblygu ac olrhain mesurau

URN: LANEM24
Sectorau Busnes (Suites): Asesiadau Effaith Cynllunio a Datblygu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn un o dair safon gysylltiedig sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu Asesu Effaith Amgylcheddol.  Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion ar gyfer rheoli'r gwaith o gyfathrebu'r Datganiad Amgylcheddol (ES) terfynol ar gyfer datblygu ac olrhain mesurau.

Mae'r gyfres o NOS yn cynnwys y canlynol:

  • Safon EM22 – Paratoi ar gyfer, sgrinio, a chwmpasu Asesiadau Effaith Amgylcheddol ar gyfer cynigion datblygu
  • Safon EM23 – Rheoli'r gwaith o gydlynu Asesiad Effaith Amgylcheddol a chreu Datganiad Amgylcheddol
  • Safon EM24 – Rheoli'r gwaith o gyfathrebu'r Datganiad Amgylcheddol terfynol ar gyfer mesurau datblygu ac olrhain

Nid yw'r safonau a restrir uchod yn amlinellu'r gofynion manwl ar gyfer testunau asesu amgylcheddol arbenigol, ond maent yn canolbwyntio ar reoli prosiectau, cydlynu a chyflwyno cyfnodau proses EIA.  Mae EIA yn broses systematig i nodi, rhagfynegi, gwerthuso a chyfathrebu effeithiau amgylcheddol gweithredoedd a phrosiectau arfaethedig.

Mae cyfnodau allweddol EIA fel a ganlyn:

  1. Nodi cynigion
  2. Sgrinio
  3. Cwmpasu
  4. Asesu effaith gadarnhaol a negyddol
  5. Lleddfu
  6. Paratoi Datganiad Amgylcheddol
  7. Adolygu
  8. Gwneud penderfyniadau
  9. Olrhain (monitro)

Fel isafswm, dylai ymgynghoriad gyda chyrff statudol a phawb sydd yn gysylltiedig â neu wedi eu heffeithio gan asesiad o'r effaith amgylcheddol, ddigwydd yn ystod cyfnod cwmpasu EIA.  Dylid pwysleisio, er bod EIA yn broses statudol ar gyfer rhai datblygiadau, nid yw'n broses cyfan gwbl llinellog.  Mae EIA yn broses ddeinamig aailadroddol sydd yn gofyn am ryngweithio rhwng cyfnodau wrth i'r asesiad fynd yn ei flaen, gyda dolenni adborth yn galluogi cynigion prosiect i gael eu mireinio a'u haddasu mewn ymateb i ganfyddiadau yr asesiad.

Mae'r safon hon yn cynnwys y prif broses o gyflwyno'r Datganiad Amgylcheddol yn derfynol, adolygu'r Datganiad, gwneud eu penderfyniadau ar gydsynio i ddatblygu, a chytundeb ar fesurau dilyniant.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  • Datblygwr â chyfrifoldeb dros gomisiynu neu reoli EIA
  • Ymgynghorydd amgylcheddol neu gynghorydd â chyfrifoldeb dros gydlynu naill ai: y broses EIA llawn ar ran datblygwr, neu gyfnodau terfynol EIA yn dilyn cynhyrchu'r datganiad Amgylcheddol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Rheoli'r gwaith o gyfathrebu'r Datganiad Amgylcheddol  (ES) terfynol i'r datblygwr i gael ei adolygu a'i gymeradwyo
  2. Rheoli'r gwaith o gyfathrebu'r Datganiad Amgylcheddol (ES), cynlluniau ac adroddiadau i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig
  3. Ymateb i unrhyw adolygiad annibynnol o'r Datganiad Amgylcheddol (ES) ac i faterion a chwestiynau a godwyd gan gyrff statudol a chyrff eraill
  4. Gweithio gyda'r datblygwr, awdurdodau cydsynio, cydweithwyr a chleientiaid i ddatrys unrhyw faterion
  5. Gweithio gyda'r datblygwr a'u cynghori ar ddatblygiad a gweithredu amodau cydsynio a/neu gytundebau cynllunio fel y maent yn berthnasol i leddfu a monitro
  6. Lle bo angen, gweithio gyda'r datblygwr ar fesurau olrhain tymor hwy

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

    1. Y rheoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol (EIA) gwahanol sydd yn berthnasol i'r datblygiad, eu diben a'r rhyngberthynas â'r broses gynllunio
    2. Cyfnodau gofynnol Asesiadau Effaith Amgylcheddol (EIA) a gweithdrefnau statudol
    3. Y ddeddfwriaeth Genedlaethol a rhyngwladol, rheoliadau cenedlaethol a rhanbarthol, a chanllawiau a'r effeithiau y gallai'r rhain eu cael ar yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA)
    4. Yr effeithiau amgylcheddol posibl sydd yn deillio o fathau gwahanol o ddatblygiad
    5. Y cydsyniadau cyfreithiol sy'n berthnasol i'r gweithrediad, ar ôl EIA
    6. Y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnwys Safon Amgylcheddol (ES) a safonau arfer gorau ar gyfer fformat a strwythur ES
    7. Gofynion rheoleiddio EIA er mwyn i'r ES gael ei gyflwyno gan arbenigwr cymwys
    8. Y dulliau asesu arbenigol perthnasol a'r rhyngweithio cronnol posibl rhwng testunau EIA
    9. Sut i reoli'r gwaith o gyfathrebu'r ES terfynol, y cynllun a'r adroddiadau i bob rhanddeiliad perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig, i'w hadolygu a'u cymeradwyo
    10. Sut i nodi, caffael a chyfeirio mewnbwn arbenigol yn ymwneud â'r ES
    11. Dulliau adolygu ansawdd ES a sut i ymateb i adolygiad annibynnol a chwestiynau a godwyd gan gyrff statudol a chyrff eraill
    12. Pwysigrwydd gweithio gyda datblygwyr, awdurdodau cydsyniol a chleientiaid i ddatrys unrhyw faterion
    13. Sut i nodi, datblygu a sicrhau lleddfu a gwelliannau amgylcheddol a phwysigrwydd cymhwyso hierarchaeth leddfu
    14. Sut i reoli proses gymhleth, ddeinamig a rhyngberthnasol
    15. Pryd i weithio gyda datblygwyr ar fesurau olrhain tymor hwy



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM13

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Cynllunio, Rheolwr Amgylcheddol, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol, Cynllunwyr

Cod SOC

3112

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; meesurau; llygredd; hinsawdd;