Rheoli’r gwaith o gydlynu Asesiad Effaith Amgylcheddol a chreu Datganiad Amgylcheddol

URN: LANEM23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Asesiadau Effaith Cynllunio a Datblygu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn un o dair safon gysylltiedig sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu cynigion datblygu Asesiadau Effaith Amgylcheddol.  Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion i reoli'r gwaith o gydlynu Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) a chreu Datganiad Amgylcheddol (ES).

Mae'r gyfres yn cynnwys y canlynol:

  • Safon EM22 – Paratoi ar gyfer, sgrinio, a chwmpasu Asesiadau Effaith Amgylcheddol ar gyfer cynigion datblygu
  • Safon EM23 – Rheoli'r gwaith o gydlynu Asesiad Effaith Amgylcheddol a chreu Datganiad Amgylcheddol
  • Safon EM24 – Rheoli'r gwaith o gyfathrebu'r Datganiad Amgylcheddol terfynol ar gyfer mesurau datblygu ac olrhain

Nid yw'r safonau a restrir uchod yn amlinellu'r gofynion manwl ar gyfer testunau asesu amgylcheddol arbenigol, ond maent yn canolbwyntio ar reoli prosiectau, cydlynu a chyflwyno cyfnodau proses EIA.  Mae EIA yn broses systematig i nodi, rhagfynegi, gwerthuso a chyfathrebu effeithiau amgylcheddol gweithredoedd a phrosiectau arfaethedig.

Mae cyfnodau allweddol EIA fel a ganlyn:

  1. Nodi cynigion
  2. Sgrinio
  3. Cwmpasu
  4. Asesu effaith gadarnhaol a negyddol
  5. Lleddfu
  6. Paratoi Datganiad Amgylcheddol
  7. Adolygu
  8. Gwneud penderfyniadau
  9. Olrhain y gwersi a ddysgwyd

Fel isafswm, dylai ymgynghoriad gyda chyrff statudol a phawb sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, asesiad o'r effaith amgylcheddol, ddigwydd yn ystod cyfnod cwmpasu EIA.  Dylid pwysleisio, er bod EIA yn broses statudol ar gyfer rhai datblygiadau, nad yw'n broses gyfan gwbl llinellog.  Mae EIA yn broses ddeinamig ac ailadroddol sydd yn gofyn am ryngweithio rhwng cyfnodau wrth i'r asesiad fynd yn ei flaen, gyda dolenni adborth yn galluogi cynigion prosiect i gael eu mireinio a'u haddasu mewn ymateb i ganfyddiadau yr asesiad.

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar brif gyfnodau proses dadansoddi ac asesu effaith, lleddfu effeithiau amgylcheddol, a llunio'r Datganiad Amgylcheddol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  • Datblygwr â chyfrifoldeb dros gomisiynu neu reoli EIA
  • Ymgynghorydd amgylcheddol neu gynghorydd â chyfrifoldeb dros gydlynu naill ai: Y broses EIA lawn ar ran datblygwr, neu gyfnodau EIA asesu effeithiau amgylcheddol, datblygiad mesurau lleddfu a chreu'r Datganiad Amgylcheddol terfynol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cynghori a briffio'r datblygwr ar ofynion penodol ar gyfer yr EIA
  2. Cynllunio tîm amlddisgyblaethol ac adnoddau i reoli asesiad effaith amgylcheddol a chreu datganiad amgylcheddol
  3. Cadarnhau bod y rheiny sydd yn cynnal yr EIA yn arbenigwyr cymwys
  4. Rheoli prosiect tîm amlddisgyblaethol
  5. Sefydlu, datblygu a rheoli cynllun gwaith yn cynnwys llinellau amser cyflwyno
  6. Rheoli contractau prosiectau a, lle bo angen, rheoli isgontractio gwaith
  7. Datblygu a chyflwyno cynllun ymgysylltu fydd yn cynnwys ymgynghori a chyfathrebu gyda chyrff rheoliadol allweddol, rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig a chymunedau lleol
  8. Diffinio tasgau a nodi gofynion, yn cynnwys meysydd asesu ar gyfer mewnbwn gan arbenigwr
  9. Datblygu a goruchwylio'r rhaglen waith
  10. Amcangyfrif, sicrhau a rheoli cyllideb
  11. Cyfathrebu gydag aelodau o'r tîm EIA i fonitro ac adrodd ar gynnydd ar gyfer cyflwyno effeithiol
  12. Asesu dilysrwydd a pherthnasedd gwybodaeth gan ffynonellau wedi eu cyhoeddi a data a gasglwyd yn benodol ar gyfer yr EIA
  13. Cyfarwyddo'r tîm EIA i gynnal arolygon perthnasol
  14. Adolygu cyfraniadau gan arbenigwyr a chymryd rhan yn y dadansoddiad effaith
  15. Goruchwylio'r gwaith o gynnal dadansoddiad effaith ar destunau cytûn
  16. Cadarnhau bod cyflawniadau amgylcheddol yn cydymffurfio â Safonau Amgylcheddol y Llywodraeth
  17. Gweithio gyda'r datblygwr, y tîm EIA ehangach a rhanddeiliaid perthnasol i ddatblygu mesurau lleddfu effeithiol neu gynigion wedi eu haddasu
  18. Gweithio gyda'r datblygwr i sefydlu ymrwymiadau rheolaeth a datblygu ar gyfer lleddfu ac olrhain, yn cynnwys monitro
  19. Paratoi Datganiad Amgylcheddol ysgrifenedig yn cynnwys paratoi'r crynodeb nad yw'n dechnegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Diben EIA a'i berthynas â chynllunio a datblygu proses ddylunio

2.  Sut i weithio gyda thîm amlddisgyblaethol i sicrhau asesu effeithiau yn wrthrychol a mabwysiadu lleddfu, monitro ac olrhain mesurau

3.  Sut i reoli proses gymhleth, ddeinamig a rhyng-gysylltiedig

4.  Sut i sefydlu, datblygu a rheoli cynllun gwaith i gynnwys llinellau amser cyflwyno

5.  Sut i reoli contractau prosiect a'r gwahaniaeth wrth reoli isgontractau

6.  Pwy yw'r cyrff rheoliadol allweddol a'r rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig

7.  Sut i, a phwysigrwydd datblygu a chyflwyno cynllun ymgysylltu i gynnwys ymgynghori â chyrff rheoliadol allweddol, rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig a chymunedau lleol

8.  Sut i amcangyfrif, sicrhau a rheoli cyllideb

9.  Cyfnodau gofynnol EIA a phrosesau statudol perthnasol

10.  Y ddeddfwriaeth Genedlaethol, a rhyngwladol, rheoliadau cenedlaethol a rhanbarthol, datganiadau, a chanllawiau a'r effeithiau y gallai'r rhain eu cael ar Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA)

11.  Yr effeithiau amgylcheddol sydd yn deillio o fathau gwahanol o ddatblygu

12.  Y cydsyniadau cyfreithiol perthnasol sydd yn berthnasol i weithredu ar ôl EIA

13.  Y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnwys ES, a safonau ymarfer gorau ar gyfer fformat a strwuthur ES

14.  Sut i ddefnyddio canlyniadau ymarferion sgrinio a chwmpasu EIA

15.  Sut a phryd i sicrhau gwybodaeth llinell sylfaen amgylcheddol a chymdeithasol

16.  Sut i nodi, caffael a chyfeirio mewnbwn arbenigol

17.  Pryd a sut i gyfathrebu gyda chyrff rheoliadol allweddol a rhanddeiliaid perthnasol yn cynnwys cymunedau lleol a mynd i'r afael â sylwadau ymgynghoreion i fodloni pob parti

18.  Sut i asesu effeithiau amgylcheddol, nodi ac ystyried dewisiadau amgen a chamau lleddfu trwy gydol cyfnodau gwahanol a chylch bywyd y datblygiad

19.  Dulliau asesu arbenigol a'r rhyngweithio cronnol posibl rhwng testunau EIA

20.  Sut i nodi, datblygu a chyflwyno lleddfu a gwelliannau amgylcheddol a chymhwyso hierarchiaeth lleddfu

21.  Sut i ysgrifennu a chydgrynhoi crynodeb ES gwrthrychol a chadarn, nad yw'n dechnegol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM12

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Cynllunio, Rheolwr Amgylcheddol, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol, Cynllunwyr

Cod SOC

3112

Geiriau Allweddol

datganiad amgylcheddol; mesurau; llygredd; hinsawdd