Paratoi ar gyfer, sgrinio a chwmpasu Asesiadau Effaith Amgylcheddol ar gyfer cynigion datblygu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn un o dair safon gysylltiedig sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu Asesiadau Effaith Amgylcheddol cynigion datblygu. Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion i gynllunio a chwmpasu Asesiadau Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer cynigion datblygu
Mae'r gyfres o NOS yn cwmpasu'r canlynol:
- Safon EM22 – Paratoi ar gyfer, sganio, a chwmpasu Asesiadau Effaith Amgylcheddol ar gyfer cynigion datblygu
- Safon EM23 – Rheoli'r gwaith o gydlynu Asesu Effaith Amgylcheddol a chreu Datganiad Amgylcheddol
- Safon EM24 – Rheoli'r gwaith o gyfathrebu'r Datganiad Amgylcheddol terfynol ar gyfer mesurau datblygu ac olrhain
Nid yw'r safonau a restir uchod yn amlinellu'r gofynion manwl ar gyfer testunau asesu amgylcheddol arbenigol, ond maent yn canolbwyntio ar reoli prosiectau, cydlynu a chyflwyno cyfnodau proses yr EIA. Mae EIA yn broses systematig i nodi, rhagfynegi, gwerthuso a chyfathrebu effeithiau amgylcheddol gweithredoedd a phrosiectau arfaethedig.
Mae cyfnodau allweddol EIA fel a ganlyn:
- Nodi cynnig
- Sgrinio
- Cwmpasu
- Asesu effaith gadarnhaol a negyddol
- Lleddfu
- Paratoi Datganiad Amgylcheddol
- Adolygu
- Gwneud penderfyniadau
- Olrhain (monitro)
Fel isafswm, dylai ymgynghoriad â chyrff statudol a phawb sydd yn gysylltiedig ag asesu effaith amgylcheddol, neu wedi eu heffeithio ganddo, ddigwydd yn ystod cyfnod cwmpasu EIA. Dylid pwysleisio, er bod EIA yn broses statudol ar gyfer rhai datblygiadau, nid yw'n broses gyfan gwbl linellog. Mae EIA yn broses ddeinamig ailadroddol sydd yn gofyn am ryngweithiorhwng cyfnodau wrth i'r asesiad fynd yn ei flaen, gyda dolenni adborth yn galluogi cynigion i gael eu mireinio a'u haddasu mewn ymateb i ganfyddiadau'r asesiad.
Mae'r safon hon yn cynnwys prif gyfnodau'r broses o baratoi EIA cychwynnol, y tri chyfnod allweddol cyntaf a restrir uchod.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Datblygwr â chyfrifoldeb dros gomisiynu neu reoli EIA
- Ymgynghorydd amgylcheddol neu gynghorydd â chyfrifoldeb dros gydlynu naill ai: y broses EIA llawn ar ran datblygwr, neu gyfnod cynnar prosesau EIA
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynllunio tîm amlddisgyblaethol ac adnoddau i sgrinio a chwmpasu Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA)
- Nodi blaenoriaethau astudiaeth dechnegol a chasglu data i fynd i'r afael â nhw yn ystod y broses Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA).
- Darparu mewnbwn gwybodus ar faterion amgylcheddol, cynaliadwyedd a datblygu cynlluniau, yn ymwneud â chynllunio cyfnod cynnar cynigion datblygu ac ystyried opsiynau amgen posibl
- Nodi a gwerthuso effeithiau amgylcheddol arwyddocaol posibl y datblygiad arfaethedig
- Nodi a chydymffurfio â'r gofynion rheoliadol sydd yn berthnasol i'r cynnig datblygu
- Cytuno ar gwmpas yr Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) a fformat y datganiad amgylcheddol gyda'r datblygwr a rhanddeiliaid allweddol
- Rhoi canllawiau presennol ar waith ar gyfer sgrinio a chwmpasu Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA)
- Cysylltu ag awdurdodau sydd yn cydsynio i sicrhau safbwynt sgrinio a/neu gwmpasu
- Cydlynu ymgynghoriad â chyrff statudol a rhanddeiliaid yn cynnwys cymunedau lleol
- Adolygu gwybodaeth i nodi effeithiau amgylcheddol arwyddocaol sydd yn gofyn am asesu a lleddfu
- Cynllunio tîm ac adnoddau sydd eu hangen i gynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) a llunio Datganiad Amgylcheddol (ES)
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i weithio gyda thîm amlddisgyblaethol a sicrhau mewnbwn arbenigol
- Sut i ddatblygu a rheoli cynllun gwaith ar gyfer sgrinio a chwmpasu Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA)
- Diben Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA) a'i berthynas â'r broses gynllunio a dylunio datblygiad
- Cyfnodau gofynnol Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA) a gweithdrefnau statudol
- Y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol, rheoliadau cenedlaethol a rhanbarthol, datganiadau, a chanllawiau a'r effaith y gallai'r rhain ei chael ar yr Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA)
- Y fframweithiau rheoliadol gwahanol a'r rhyngweithio gyda'r broses EIA
- Yr effeithiau amgylcheddol posibl sydd yn deillio o fathau gwahanol o ddatblygiad
- Y cydsyniadau cyfreithiol gofynnol sydd yn berthnasol i'r gweithrediad, ar ôl EIA
- Sut i reoli ymarferion sgrinio a chwmpasu'r EIA
- Pwy yw eich rhanddeiliaid a'r broses o ymgysylltu
- Sut a phryd i sicrhau gwybodaeth llinell sylfaen amgylcheddol a chymdeithasol
- Sut i asesu effeithiau amgylcheddol trwy gyfnodau gwahanol o'r datblygiad
- Sut i nodi a datblygu lleddfu a gwelliannau amgylcheddol effeithiol
- Sut i ysgrifennu adroddiad cwmpasu gwrthrychol
- Pryd a sut i gyfathrebu gyda chyrff statudol a rhanddeiliaid gofynnol yn cynnwys cymunedau lleol
- Sut i reoli proses gymhleth, ddeinamig a rhyng-gysylltiedig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Y rheoliadau EIA amgen a sut maent yn berthnasol (e.e. Rheoliadau EIA Cynllunio Gwlad a Thref; Rheoliadau EIA (Coedwigaeth), Rheoliadau (EIA) Gwaith Morol, Rheoliadau (EIA) Pibell Cludo Nwy; Rheoliadau EIA (Amaethyddiaeth); Rheoliadau (EIA) Adnoddau Dŵr, ac ati).