Monitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol. Mae'n cynnwys sut i reoli dulliau a phrosesau i fonitro a gwerthuso gwelliannau i berfformiad ynni sefydliadol, sut i gael, dadansoddi a chofnodi gwybodaeth am welliannau i berfformiad ynni sefydliadol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reoli ynni
- Perchennog busnes bach sydd yn ceisio gwella perfformiad ynni'r sefydliad
- Cydlynydd systemau rheoli ynni neu gyfwerth
- Archwilydd ynni
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor ar reoli ynni.
Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a gwerthuso canlyniadau gwella ynni a chreu adroddiadau ac ymgysylltu a chyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad ynni.
Wrth fonitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol, mae angen i chi/y monitor gofio'r gofynion i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd adnoddau, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol sydd angen eu monitro a'u gwerthuso
- Nodi'r mathau o ddulliau monitro ar gyfer defnydd o ynni
- Nodi'r holl adnoddau sydd yn ofynnol i fonitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
- Monitro a gwerthuso'r gwelliannau a weithredwyd i berfformiad ynni yn unol â gofynion sefydliadol
- Gweithredu os nad yw gwelliannau a weithredwyd i berfformiad ynni sefydliadol yn cael eu cyflawni yn unol â chwmpas a diffiniad y prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol
- Lle bo angen, cael gwybodaeth am berfformiad ynni gan gyflenwyr cynnyrch a phrosesau, i helpu i nodi a yw gwelliannau i berfformiad ynni yn gweithio
- Cofnodi a recordio canfyddiad wrth fonitro a gwerthuso gwelliannau i berfformiad ynni sefydliadol
- Cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymau dros, a buddion gwella, perfformiad ynni yn barhaus
- Y dulliau monitro gwahanol ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
- Yr adnoddau sydd yn ofynnol i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
- Y gofynion rheoliadol o ran effeithlonrwydd ynni sydd yn berthnasol i'r sefydliad
- Sut i adnabod yr angen am, a chael, arbenigedd ychwanegol o fewn y graddfeydd amser gofynnol
- Sut i adnabod sgiliau gofynnol rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig yn gwella perfformiad ynni
- Y ffyrdd y gall rhanddeiliaid perthnasol fod yn gysylltiedig â monitro a gwerthuso gwelliannau a'r rhesymau dros eu cyfranogiad
- Y rhwystrau posibl i wella effeithlonrwydd ynni a sut i'w hystyried wrth fonitro a gwerthuso
- Y rhesymau dros fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau
- Y dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau
- Y gofynion sefydliadol a'r gweithdrefnau ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau
- Y ffyrdd y dylid cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad i randdeiliaid perthnasol
- Y mathau o ddogfennau sydd yn ofynnol ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau