Cynllunio, datblygu a gweithredu prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth sydd yn ofynnol i gynllunio, datblygu a gweithredu prosesau gwella perfformiad. Mae'n cynnwys sut i reoli dulliau a phrosesau i wella perfformiad ynni sefydliadol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reoli ynni
- Perchennog busnes bach sydd yn ceisio gwella perfformiad ynni'r sefydliad
- Cydlynydd systemau rheoli ynni neu gyfwerth
- Archwilydd ynni
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor ar reoli ynni.
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio, datblygu a gweithredu prosesau sydd yn ofynnol i wella perfformiad ynni sefydliadol, gan ystyried arfer gorau, adnoddau, amcanion a chyfathrebu sydd yn ofynnol i gynyddu effeithlonrwydd ynni.
Wrth gynllunio, datblygu a gweithredu prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol, mae angen i chi/y cynlluniwr ystyried y gofynion i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd adnoddau, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi'r amcanion amgylcheddol sefydliadol a'r targedau ar gyfer perfformiad ynni
- Cynllunio datblygu a gweithredu prosesau gwella ar gyfer perfformiad ynni sefydliadol
- Cadarnhau'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi gweithredu prosesau gwella i wella perfformiad ynni sefydliadol
- Datblygu'r prosesau gwella yn unol â gofynion deddfwriaethol sefydliadol a phresennol i gydymffurfio â graddfeydd amser gofynnol a chyllidebau
- Gweithredu prosesau gwella mewn ffordd sydd yn galluogi rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig, i gyfrannu
- Gweithredu prosesau gwella mewn ffordd sydd yn cynyddu'r buddion i'r sefydliad ac i'r amgylchedd.
- Monitro a gwerthuso gweithredu prosesau gwella yn unol â gofynion y sefydliad
- Adolygu'r prosesau gwella a defnyddio'r canlyniadau i wella ymarfer sefydliadol i'r dyfodol
- Gweithredu os nad yw'r gweithredu'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau
- Cyfathrebu effeithiolrwydd y broses wella i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig
- Sefydlu effaith y prosesau gwella a'r buddion i'r sefydliad a'i berfformiad ynni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymau dros a buddion gwella perfformiad ynni yn barhaus
- Sut i nodi'r amcanion amgylcheddol sefydliadol a'r targedau ar gyfer perfformiad ynni
- Beth sydd yn ofynnol i gynllunio datblygu a gweithredu prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol
- Y mathau a ffynonellau'r wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer cynllunio datblygiad prosesau gwella
- Y gofynion adnoddau i gefnogi gweithredu'r prosesau gwella i wella perfformiad ynni sefydliadol
- Y gofynion rheoliadol ac arfer da yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni sy'n berthnasol i'r sefydliad
- Sut i adnabod yr angen am, a chael arbenigedd a gwybodaeth ychwanegol o fewn y graddfeydd amser gofynnol a'r gyllideb
- Sut i adnabod sgiliau gofynnol rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig, sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad ynni sefydliadol
- Y broses o gyflwyno cynllun gweithredu mesuradwy, wedi ei amserlennu a systematig
- Y rhwystrau posibl i wella effeithlonrwydd ynni a sut i'w hystyried wrth gynllunio
- Cynnwys angenrheidiol cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni
- Cyflwyno cynlluniau'n briodol ar gyfer dibenion gwahanol a chynulleidfaoedd gwahanol
- Rhesymau dros fonitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau gwella perfformiad ynni
- Dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau gwella perfformiad ynni
- Gofynion a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau gwella
- Ffyrdd y dylid cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad
- Mathau o ddogfennau sydd yn ofynnol ar gyfer monitro a gwerthuso'r prosesau gwella