Cynorthwyo cydweithwyr i nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y prosiectau neu’r adrannau

URN: LANEM2
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn cynorthwyo cydweithwyr i nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y prosiectau neu adrannau.  Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys cynnig opsiynau rheolaeth i wella perfformiad amgylcheddol y prosiectau neu'r adrannau.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  •     Unigolyn â briff penodol i gynorthwyo gyda'r gwaith o nodi effeithiau ac agweddau amgylcheddol arwyddocaol y prosiectau.

Mae'r safon hon yn cynnwys nodi gweithgareddau, cynnyrch, neu wasanaethau sydd yn cael eu cynnig gan yr adran neu'r prosiect, sydd yn cael effaith ar yr amgylchedd.

Mae hefyd yn cynnwys adolygu'r agweddau amgylcheddol er mwyn pennu'r rheiny a allai gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd a'r cynnig o weithredu i reoleiddio neu reoli'r agweddau amgylcheddol arwyddocaol er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol yr adran neu''r prosiect.

Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, gwasanaethau a'u gweithgareddau.  Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon.  Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol.  Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cynorthwyo cydweithwyr nodi agweddau amgylcheddol sydd yn ymwneud â'r gweithgareddau, cynnyrch a'r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig gan adrannau'r prosiect
  2. Cynorthwyo cydweithwyr i nodi'r agweddau amgylcheddol sydd yn deillio o'r agweddau amgylcheddol a nodwyd
  3. Cynorthwyo cydweithwyr i werthuso'r agweddau a'r effeithiau amgylcheddol i bennu eu harwyddocâd
  4. Cynorthwyo cydweithwyr wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, i nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ar gyfer y prosiectau neu'r adran
  5. Cofnodi'r agweddau a'r effeithiau amgylcheddol a'u harwyddocâd gan ddefnyddio fformat perthnasol
  6. Cynnal ac adolygu cofnodion agweddau ac effeithiau amgylcheddol a'u harwyddocâd yn rheolaidd fel y diffinnir gan ofynion sefydliadol a rheoliadol
  7. Gwneud argymhellion ar gyfer rheolaeth agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol i wella perfformiad amgylcheddol y prosiect neu'r adran
  8. Gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu'r argymhellion arfaethedig
  9. Cynnig camau ar gyfer gweithredu argymhellion ar gyfer reoli agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, i wella perfformiad amgylcheddol y prosiect neu'r adran

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Y gofynion cyfreithiol a gofynion (anrheoliadol) perthnasol eraill sydd yn berthnasol i'r prosiectau neu'r adrannau

2.  Mewnbwn, allbwn a gweithrediadau'r prosiectau neu'r adrannau

3.  Agweddau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol y prosiectau neu'r adrannau

4.  Agweddau amgylcheddol gorffennol, presennol a dyfodol y prosiectau neu'r adrannau

5.  Agweddau amgylcheddol uniongyrchol ac anuniongyrchol y prosiectau neu'r adrannau

6.  Mathau posibl o agweddau amgylcheddol annormal neu frys y prosiectau neu'r adrannau

7.  Sut i nodi agweddau ac effeithiau posibl sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau, cynnyrch a gwasanaethau y prosiectau neu'r adrannau

8.  Pwysigrwydd cynnal asesiad cylch bywyd o'r holl gynnyrch

9.  Pwysigrwydd gwella agweddau ac effeithiau amgylcheddol y prosiect neu'r adran, i gynorthwyo'r argyfwng newid hinsawdd a lleihau'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol

10.  Pwysigrwydd asesu ôl troed carbon cynnyrch, gweithgareddau neu wasanaeth sydd yn cael ei gynnig gan y prosiectau neu'r adran

11.  Pwysigrwydd asesu cyfrifo cyfalaf naturiol a chyfrifo carbon y rheiny yr ydych yn prynu nwyddau a gwasanaethau oddi wrthynt

12.  Y rhesymau dros werthuso agweddau ac effaith amgylcheddol arwyddocaol a'r dulliau gwahanol sydd ar gael ar gyfer gwerthuso, gan ystyried data ansoddol a meintiol

13.  Sut i nodi a chynnwys rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, yn y broses o werthuso agweddau amgylcheddol prosiect neu adrannau am arwyddocâd

14.  Pwysigrwydd cofnodi canfyddiadau a gwelliannau arfaethedig i berfformiad amgylcheddol ar fformat perthnasol

15.  Y rheiny y dylid cyfathrebu gwelliannau arfaethedig iddynt

16.  Sut i ffurfio a chyflwyno argymhellion ar gyfer gwella perfformiad amgylched

17.  Y methiant i reoli agweddau arwyddocaol ar gyfer perfformiad amgylcheddol y prosiectau neu'r adrannau

  1. Y risg o beidio â chymhwyso egwyddorion gwelliant parhaus i berfformiad amgylcheddol y prosiectau neu'r adrannau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Nodweddion gwarchodedig:

      • Oed
      • Anabledd
      • Ailbennu rhywedd
      • Priodas a phartneriaeth sifil
      • Beichiogrwydd a mamolaeth
      • Hil
      • Crefydd neu gred
      • Rhyw
      • Cyfeiriadedd rhywiol

Methodoleg ar gyfer nodi agweddau ac effeithiau

      • Methodoleg Grwpio
      • Methodoleg Arolygu
      • Methodoleg cydbwysedd màs
      • Methodoleg ôl-gyfrifo
      • Methodoleg Potpourri


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Prosiect

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

gwella; prosiectau; polisïau; systemau;