Monitro a gwerthuso perfformiad ynni sefydliadol

URN: LANEM18
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth i fonitro a gwerthuso'r defnydd o ynni sefydliadol a'i berfformiad.  Mae'n cynnwys sut i reoli dulliau a phrosesau i fonitro a gwerthuso'r defnydd o ynni sefydliadol a'i berfformiad, sut i gael, dadansoddi a chofnodi gwybodaeth am berfformiad ynni a darparu gwybodaeth sydd ei hangen i gynyddu perfformiad ynni.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  • Rheolwr â chyfrifoldeb dros reoli ynni
  • Perchennog busnes bach sydd eisiau gwella perfformiad ynni y sefydliad
  • Cydlynydd systemau rheoli ynni neu gyfwerth
  • Archwilydd ynni
  • Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor rheolaeth ynni.

Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a gwerthuso canlyniadau perfformiad ynni a chreu adroddiadau ac ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig â chynyddu perfformiad ynni sefydliadol.

Wrth fonitro a gwerthuso perfformiad ynni sefydliadol, mae angen i chi/y monitor ystyried y gofynion i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd adnoddau, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi cwmpas a diffiniad prosesau perfformiad ynni sefydliadol sydd angen eu monitro a'u gwerthuso
  2. Adolygu unrhyw ddulliau monitro perfformiad ynni sefydliadol presennol yn unol â gofynion
  3. Nodi dulliau monitro ac arfer da ar gyfer y defnydd o ynni a lle y bo'n berthnasol, eu hadolygu yn erbyn dulliau presennol
  4. Creu gweithdrefn i fonitro a gwerthuso'r defnydd o ynni sefydliadol a'i berfformiad
  5. Nodi'r holl adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu dulliau monitro
  6. Gweithredu dulliau monitro yn unol â graddfeydd amser ac adnoddau
  7. Cael a chofnodi gwybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer gwerthuso perfformiad ynni sefydliadol
  8. Cael gwybodaeth am berfformiad ynni gan gyflenwyr cynnyrch a phrosesau
  9. Cofnodi a recordio perfformiad ynni sefydliadol
  10. Cyfathrebu perfformiad ynni sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig
  11. Gwerthuso a dadansoddi perfformiad effeithlonrwydd ynni y sefydliad yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd gan gyflenwyr
  12. Recordio a chofnodi canlyniadau'r gwerthusiad
  13. Cymharu'r canlyniadau gyda gofynion sefydliadol presennol ac arfer da presennol
  14. Nodi a chytuno ar feysydd lle mae angen gwella perfformiad ynni sefydliadol
  15. Rhoi gwybodaeth am berfformiad ynni sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y prosesau sydd yn gofyn am fonitro a gwerthuso
  2. Yr ystod o ddulliau monitro ar gyfer gwerthuso'r defnydd o ynni sefydliadol a sut i ddewis system(au) addas
  3. Sut i gydgrynhoi a chofnodi gwybodaeth am ddulliau a phrosesau monitro
  4. Sut i amcangyfrif yr adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu dulliau a phrosesau monitro
  5. Sut i gael cymeradwyaeth am adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu dulliau a phrosesau monitro
  6. Sut i reoli adnoddau i weithredu dulliau a phrosesau monitro
  7. Sut i gael a chofnodi yn y fformat sefydliadol perthnasol, y wybodaeth sydd yn ofynnol i asesu effeithlonrwydd ynni sefydliadol o ddulliau a phrosesau monitro
  8. Sut i gael gwybodaeth am berfformiad ynni gan gyflenwyr cynnyrch a phrosesau
  9. Yr ystod o gyflenwyr a'r wybodaeth y gallant ei rhoi ar effeithlonrwydd ynni eu cynnyrch a'u prosesau
  10. Sut i gydgrynhoi a chofnodi gwybodaeth am berfformiad ac effeithlonrwydd ynni
  11. Egwyddorion a phrosesau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso
  12. Yr ystod o ddulliau gwerthuso a dadansoddi a datblygu a chymhwyso system(au) perthnasol
  13. Sut i gydgrynhoi a chofnodi canlyniadau gwerthuso a dadansoddi
  14. Sut i ddefnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i nodi meysydd posibl ar gyfer gwella perfformiad ynni sefydliadol a buddion gwelliant
  15. Sut i ddarparu a chyflwyno gwybodaeth reolaidd ar berfformiad ynni sefydliadol y dulliau a'r prosesau
  16. Y ffynonellau ynni a ddefnyddir gan y sefydliad ac effaith amgylcheddol bob un

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM9

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Amgylcheddol, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol, Archwilydd Ynni

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd;