Cynllunio, datblygu a gweithredu prosesau monitro perfformiad ynni sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth i gynllunio, datblygu a gweithredu prosesau monitro perfformiad ynni sefydliadol. Mae'n cynnwys sut i reoli dulliau a phrosesau i fonitro a gwerthuso'r defnydd o ynni.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
Rheolwr â chyfrifoldeb dros reoli ynni
Perchennog busnes bach sydd eisiau gwella perfformiad ynni'r sefydliad
Cydlynydd systemau rheoli ynni neu gyfwerth
Archwilydd ynni
Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor rheoli ynni.
Mae'r safon hon yn cynnwys y cynllunio a'r datblygiad sydd yn ofynnol i weithredu system monitro ynni sefydliadol, gan ystyried yr arfer da, adnoddau, amcanion a'r cyfathrebu sydd yn ofynnol i gynyddu effeithlonrwydd ynni.
Wrth gynllunio, datblygu a gweithredu prosesau monitro perfformiad ynni sefydliadol, mae angen i chi/y cynlluniwr ystyried y gofynion i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd ynni, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi'r amcan amgylcheddol sefydliadol a'r targedau ar gyfer perfformiad ynni
- Cynllunio datblygu a gweithredu prosesau monitro perfformiad ynni
- Cadarnhau'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi gweithredu'r prosesau monitro i wella perfformiad ynni sefydliadol
- Datblygu'r prosesau monitro yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol presennol i gydymffurfio â graddfeydd amser gofynnol a chyllidebau
- Gweithredu prosesau monitro mewn ffordd sydd yn galluogi rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig, i gyfrannu
- Gweithredu prosesau monitro mewn ffordd sydd yn cynyddu'r buddion i'r sefydliad a'r amgylchedd
- Monitro a gwerthuso gweithredu prosesau monitro perfformiad ynni yn unol â gofynion sefydliadol
- Adolygu'r prosesau monitro a defnyddio'r canlyniadau i wella ymarfer i'r dyfodol
- Cymryd camau os nad yw'r gweithredu'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau
- Cyfathrebu canlyniadau'r adolygiad i randdeiliaid perthnasol
- Sefydlu effaith gweithredu'r prosesau monitro a'r buddion i'r sefydliad a'i berfformiad ynni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymau dros, a buddion, gwella perfformiad ynni yn barhaus
- Sut i nodi amcanion a thargedau'r sefydliad ar gyfer perfformiad ynni
- Beth sydd yn ofynnol i gynllunio datblygu a gweithredu prosesau monitro perfformiad ynni sefydliadol
- Y mathau a'r ffynonellau gwybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer cynllunio datblygiad y prosesau monitro
- Y gofynion o ran adnoddau i gefnogi gweithredu'r prosesau monitro i wella perfformiad ynni y sefydliad
- Y gofynion rheoliadol ac arfer da yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni sydd yn berthnasol i'r sefydliad
- Sut i adnabod yr angen am, a chael arbenigedd a gwybodaeth ychwanegol o fewn y graddfeydd amser gofynnol a'r gyllideb
- Sut i adnabod sgiliau gofynnol rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig, sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad ynni sefydliadol
- Y broses o gyflwyno cynllun gweithredu mesuradwy, wedi ei amserlennu a systematig
- Y rhwystrau posibl i wella effeithlonrwydd ynni a sut i'w hystyried wrth gynllunio
- Cynnwys angenrheidiol cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni
- Y mathau o gyflwyniad sydd yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd a diben gwahanol
- Y rhesymau dros fonitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau monitro perfformiad ynni
- Y dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau monitro perfformiad ynni
- Y gofynion a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau monitro
- Y ffyrdd y dylid cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad
- Y mathau o ddogfennau sydd yn ofynnol ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu'r prosesau monitro