Cyfrannu at wella perfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyfrannu at welliannau i berfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect. Mae'r safon yn edrych ar y ffordd y gallwch gyfrannu at gynllunio, gweithredu, ac adolygu gwelliannau i berfformiad amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Unigolyn â briff penodol i wella perfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect
- Cydlynydd systemau rheoli amgylcheddol neu gyfwerth
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys cyfrannu at weithredu'r cynlluniau hyn a chyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu gwelliannau i berfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.
Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu'r effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau i wella perfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol presennol ac o fewn y graddfeydd amser a'r cyllidebau gofynnol
- Sicrhau y bydd yr adnoddau yn cynorthwyo gweithredu'r cynlluniau i wella perfformiad amgylcheddol a, lle y bo'n bosibl, eu bod yn dod o ffynonellau cynaliadwy
- Cyfrannu at weithredu cynlluniau mewn ffordd sydd yn cynyddu'r buddion i'r adran neu'r prosiect ac i'r amgylchedd ac yn galluogi cydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o'r nodweddion gwarchodedig, i gyfrannu at welliannau
- Cyfrannu at ddatblygu mesurau i fonitro gwelliannau sydd wedi eu rhoi ar waith ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Cyfrannu at fonitro a gwerthuso gweithrediadau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
- Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o fonitro a gwerthuso
- Cyfrannu at adolygu effeithiolrwydd y broses fonitro a defnyddio'r canlyniadau i wella ymarfer yn y dyfodol
- Cymryd camau os nad yw'r gweithredu'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau
- Cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad i randdeiliaid perthnasol
- Cyfrannu at sefydlu effaith y gweithredu a'r buddion i'r adran neu'r prosiect a'r amgylchedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Buddion a'r rhesymau dros wella perfformiad amgylcheddol yn barhaus
- Y mathau a ffynonellau'r wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer cynllunio gwelliannau i berfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect
- Adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu gwelliannau posibl i berfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect
- Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill sydd yn berthnasol i'r sefydliad
- Sut i adnabod yr angen am, a chael, arbenigedd ychwanegol o fewn y graddfeydd amser gofynnol
- Ffyrdd y gall rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, fod yn gysylltiedig â'r broses gynllunio, a'r rhesymau dros eu cyfranogiad
- Y broses o gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredu mesuradwy, wedi ei amserlenni a systematig
- Rhwystrau posibl i wella perfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect a sut i ddwyn y rhain i gyfrif wrth gyfrannu at gynllunio
- Cynnwys gofynnol cynlluniau i wella perfformiad amgylcheddol adrannol neu brosiect
- Cyflwyno cynlluniau yn briodol at ddibenion gwahanol a chynulleidfaoedd gwahanol
- Dulliau a rhesymau dros fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gweithredu gwelliannau
- Gofynion sefydliadol a gweithdrefnau ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau sydd wedi eu rhoi ar waith
- Y ffyrdd y dylid cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad
- Y mathau o ddogfennau sydd yn ofynnol ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu gwelliannau