Gwella perfformiad amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd yn ofynnol i wella perfformiad amgylcheddol sefydliadol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chynllunio gwelliannau i berfformiad amgylcheddol sefydliadol a monitro eu gweithrediad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd yn ceisio gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Unigolyn â briff penodol i wella perfformiad amgylcheddol
- Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys gwella perfformiad amgylcheddol sefydliadol trwy roi cynlluniau ar waith i wella perfformiad amgylcheddol sefydliadol a'r ymgysylltu a'r cyfathrebu o fewn pawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu gwelliannau.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gwella perffrormiad amgylcheddol sefydliadol fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.
Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal ag ar lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Datblygu cynlluniau i wella perfformiad amgylcheddol sefydliadol yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol presennol ac o fewn y graddfeydd amser a'r cyllidebau gofynnol
- Cadarnhau y bydd yr adnoddau yn cynorthwyo'r gwaith o weithredu cynlluniau i wella perfformiad amgylcheddol a, lle y bo'n bosibl, eu bod yn cael eu tarddu'n gynaliadwy
- Rhoi cynlluniau ar waith mewn ffordd sydd yn cynyddu'r buddion i'r sefydliad a'r amgylchedd ac yn galluogi cydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, i gyfrannu at welliannau
- Datblygu mesurau i fonitro gwelliannau sydd wedi eu rhoi ar waith ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Monitro a gwerthuso'r gweithredu yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethau perthnasol
- Cael safbwyntiau rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o fonitro a gwerthuso
- Adolygu effeithiolrwydd y broses fonitro a defnyddio'r canlyniadau i wella ymarfer yn y dyfodol
- Gweithredu'n effeithiol os nad yw gweithredu'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau
- Cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad i rhanddeiliaid perthnasol
- Sefydlu effaith y gweithredu a'r buddion i'r sefydliad a'r amgylchedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymau dros wella perfformiad amgylcheddol yn barhaus a buddion hyn
- Y mathau a ffynonellau gwybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer cynllunio gwelliannau i berfformiad amgylcheddol sefydliadol a sut i adnabod yr angen am arbenigedd a gwybodaeth ychwanegol
- Adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu gwelliannau i berfformiad amgylcheddol sefydliadol
- Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol perthnasol eraill sydd yn berthnasol i'r sefydliad
- Ffyrdd y gall rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, fod yn gysylltiedig â'r broses gynllunio a'r rhesymau dros eu cynnwys
- Y cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol sydd gennym i gyd yn ymwneud â'r amgylchedd a phwysigrwydd addasu i sicrhau dyfodol y genhedlaeth nesaf
- Y broses o ddatblygu cynllun gweithredu mesuradwy, wedi ei amserlennu, a systematig
- Rhwystrau posibl i wella perfformiad amgylcheddol sefydliadol a sut i ystyried y rhain wrth gynllunio
- Cynnwys angenrheidiol cynlluniau i wella perfformiad amgylcheddol a'r cyflwyniad perthnasol ar gyfer dibenion gwahanol a chynulleidfaoedd gwahanol
- Dulliau a rhesymau dros fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau wedi eu gweithredu i berfformiad amgylcheddol
- Gofynion a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau wedi eu gweithredu
- Y ffyrdd y dylid cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad
- Y mathau o ddogfennau sydd yn ofynnol ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredu gwelliannau