Adrodd ar berfformiad amgylcheddol sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth i adrodd ar berfformiad amgylcheddol sefydliadol. Mae'n cynnwys gwerthuso gwybodaeth i'w chynnwys mewn adroddiad a sut gellir cyfathrebu a dilysu'r adroddiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Unigolyn â briff penodol i adrodd ar berfformiad amgylcheddol
- Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys casglu, gwerthuso a chyflwyno gwybodaeth i'w chynnwys mewn adroddiad amgylcheddol, cyfathrebu'r adroddiad a chael adborth.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig ag adrodd ar berfformiad amgylcheddol sefydliadol fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.
Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu data a gwybodaeth am berfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Gwerthuso'r data a'r wybodaeth a gasglwyd
- Llunio adroddiadau sydd yn cynnwys data y gellir ei ddilysu
- Paratoi adroddiadau o fewn y raddfa amser ofynnol a'u troi yn fformat sydd yn addas at anghenion y darllenydd
- Cadarnhau bod y trefniadau ar gyfer lledaenu'r adroddiad yn bodloni gofynion sefydliadol
- Lledaenu'r adroddiadau mewn ffordd sydd yn gost effeithiol ac yn lleihau niwed amgylcheddol
- Annog adborth gan randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig ar gynnwys yr adroddiad a'i werth i'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Systemau sefydliadol ar gyfer adrodd a chyfathrebu gwybodaeth amgylcheddol
- Rhanddeiliaid perthnasol y sefydliad, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig
- Sut bydd y rhanddeiliaid gwahanol yn defnyddio'r adroddiad
- Sut i bennu i bwy y dylid lledaenu'r adroddiad
- Sut i gasglu a gwerthuso data a gwybodaeth ar berfformiad amgylcheddol sefydliadol
- Sut i ragweld ac ymateb i geisiadau am fwy o wybodaeth ac adborth
- Rôl adrodd amgylcheddol yn pennu perfformiad amgylcheddol sefydliadol
- Y mathau gwahanol o adroddiad sydd yn cynnwys gwybodaeth amgylcheddol
- Y dulliau a'r fformatiau sydd ar gael ar gyfer paratoi a chyflwyno adroddiadau, yn fewnol ac yn allanol
- Yr opsiynau ar gyfer dilysu adroddiadau yn annibynnol a phryd y gall fod angen hyn
- Sut i nodi'r angen am, a mynediad at, arbenigedd a gwybodaeth ychwanegol
- Sut i deilwra fformat yr adroddiad ar gyfer mathau gwahanol o randdeiliaid
- Ffynonellau gwybodaeth am arfer da o ran adrodd amgylcheddol a safonau cydnabyddedig ar gyfer adrodd