Monitro a gwerthuso perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd yn ofynnol i fonitro a gwerthuso perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect. Mae'r safon yn edrych ar adnabod newidiadau mewn amcanion a tharged ar gyfer perfformiad amgylcheddol ac argymell gwelliannau i berfformiad amgylcheddol adran neu brosiect.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Unigolyn â briff penodol i adolygu perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect
- Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a gwerthuso effeithiolrwydd amcanion adran neu brosiect a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol.
Mae'n cynnwys adnabod, mesur a chyfathrebu ymarfer presennol a nodi gwelliannau, cyfathrebu i bawb sydd yn gysylltiedig â pherfformiad amgylcheddol adran neu brosiect ac argymhelliad ar gyfer newid.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â monitro a gwerthuso perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect fod yn gysylltiedig â chyfrifiadau carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi amcanion a thargedau presennol adran neu brosiect ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Nodi, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, i gynorthwyo gyda'r gwaith o fonitro a gwerthuso perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect
- Monitro a gwerthuso cyflawni amcanion a thargedau adrannol neu brosiect ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Nodi amrywiadau mewn perfformiad amgylcheddol a sefydlu'r rhesymau dros y rhain
- Nodi arfer da a meysydd ar gyfer gwella yn yr adran neu'r prosiect mewn perthynas â pherfformiad amgylcheddol
- Lle bo angen rheoli perfformiad amgylcheddol
y contractwr - Cofnodi'r canfyddiadau yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol a gwelliannau a argymhellir ar gyfer perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect
- Cyfathrebu'r gwelliannau a argymhellir i berfformiad amgylcheddol i randdeiliaid perthnasol
- Monitro perfformiad amgylcheddol yr adran neu'r prosiect yn barhaus i sicrhau bod effeithiau'n cael eu trin cyn gynted â phosibl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Buddion perfformiad amgylcheddol gwell i'r adran neu'r prosiect
- Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill sydd yn berthnasol i'r sefydliad
- Sut i nodi'r rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig a gwerthuso eu safbwyntiau
- Arfer da presennol y diwydiant sydd yn gysylltiedig ag agweddau amgylcheddol y sefydliad
- Dulliau ar gyfer meincnodi perfformiad amgylcheddol adran neu brosiect
- Dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso cyflawniad amcanion a thargedau perfformiad amgylcheddol
- Y gwahaniaeth rhwng monitro perfformiad amgylcheddol gweithredol (rhagweithiol) a monitro adweithiol
- Pwysigrwydd rheoli perfformiad amgylcheddol y contractwr, lle bo angen
- Cyfrifoldebau'r contractwr mewn perthynas â'u perfformiad amgylcheddol eu hunain
- Sut i ragweld buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gwelliannau posibl
- Y rhesymau dros a buddion gwella perfformiad amgylcheddol yn barhaus
- Sut i gofnodi canfyddiad ar fformat addas a chyflwyno argymhellion i randdeiliad perthnasol, ar gyfer gwelliannau i berfformiad amgylcheddol
- Dangosyddion Perfformiad Allweddol sydd yn gysylltiedig â gwelliannau i berfformiad amgylcheddol