Adolygu perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac argymell gwelliannau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd yn ofynnol i adolygu perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac argymell gwelliannau. Mae'r safon yn edrych ar nodi newidiadau a datblygu cynllun i roi'r rhain ar waith.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Unigolyn â briff penodol i adolygu perfformiad amgylcheddol
- Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys mesur cyflawniad amcanion sefydliadol a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol a'r gwaith o nodi gwelliannau.
Mae'n cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu gan bawb sydd yn gysylltiedig â chyflawni amcanion sefydliadol a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig ag adolygu perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac argymell gwelliannau fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi amcanion a thargedau sefydliadol presennol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Sefydlu mesurau i werthuso cyflawni amcanion a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Nodi, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, i gynorthwyo gydag adolygu a gwerthuso perfformiad amgylcheddol sefydliadol
- Adolygu a gwerthuso cyflawni amcanion a thargedau perfformiad amgylcheddol
- Nodi amrywiadau mewn perfformiad amgylcheddol a sefydlu'r rhesymau dros y rhain
- Nodi arfer da a meysydd gwella yn y sefydliad mewn perthynas â pherfformiad amgylcheddol
- Cofnodi'r canfyddiadau yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol a gwelliannau a argymhellir
- Cyfathrebu'r gwelliannau a argymhellir i berfformiad amgylcheddol i randdeiliaid perthnasol
- Sefydlu a chytuno ar gynllun newid, sydd yn nodi mesurau a'r effaith ar amcanion a thargedau a'r adnoddau sydd yn ofynnol
- Cadarnhau y bydd unrhyw adnoddau yn cael eu tarddu'n lleol os yn bosibl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Buddion i'r sefydliad a'r amgylchedd yn sgîl perfformiad amgylcheddol gwell
- Adnoddau sydd yn ofynnol i roi gwelliannau posibl i berfformiad amgylcheddol ar waith
- Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill sydd yn berthnasol i'r sefydliad
- Sut i adnabod y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig a gwerthuso eu safbwyntiau
- Arfer da presennol diwydiant sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Dulliau ar gyfer meincnodi perfformiad amgylcheddol sefydliadol
- Dulliau ar gyfer adolygu a gwerthuso cyflawni amcanion a thargedau perfformiad amgylcheddol
- Y gwahaniaeth rhwng monitro perfformiad amgylcheddol gweithredol (rhagweithiol) a monitro adweithiol
- Sut i ragfynegi buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gwelliannau posibl i berfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Y rhesymau dros, a buddion gwella perfformiad amgylcheddol yn barhaus
- Sut i gofnodi canfyddiad ar fformat addas a chyflwyno argymhellion i randdeiliaid perthnasol, ar gyfer gwelliannau i berfformiad amgylcheddol sefydliadol
- Dangosyddion Perfformiad Allweddol sydd yn gysylltiedig â gwelliant i berfformiad amgylcheddol