Pennu a gweithredu amcan a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd yn ofynnol i bennu a gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol. Mae'r safon yn edrych ar nodi amcanion a thargedau sefydliadol a datblygiad cynllun i weithredu'r rhain.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd yn ceisio gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Unigolyn â briff penodol i adolygu perfformiad amgylcheddol
- Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys pennu a gweithredu amcanion a thargedau gan ddefnyddio arfer da.
Mae'n cynnwys nodi, mesur a chyfathrebu ymarfer presennol a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu amcan a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â phennu a gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol fod yn gysylltiedig â chyfrifiadau carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol.Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu'r effaith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i bennu a sefydlu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Pennu amcanion a thargedau sydd yn gysylltiedig ag agweddau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
- Pennu'r risgiau i'r sefydliad a risg y sefydliad i'r amgylchedd
- Cadarnhau bod yr amcanion a'r targedau sefydliadol yn cyd-fynd â pholisi amgylcheddol sefydliadol, deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion rheoliadol eraill
- Cadarnhau bod amcanion a thargedau sefydliadol yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, bod cyfrifoldeb wedi ei neilltuo ac yn gaeth i amser
- Cyfathrebu amcan a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol gyda rhanddeiliaid perthnasol
- Gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Cadarnhau bod mesurau gwerthuso a reoli yn cael eu rhoi ar waith i fonitro'r amcanion a'r targedau sefydliadol ar gyfer y perfformiad amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol wrth bennu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Sut i bennu amcanion a thargedau sydd yn gysylltiedig ag agweddau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
- Sut i bennu'r risgiau i'r sefydliad a risg y sefydliad i'r amgylchedd
- Y cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol sydd gennym i gyd yn ymwneud â'r amgylchedd a phwysigrwydd addasu i sicrhau dyfodol y genhedlaeth nesaf
- Pwysigrwydd cadarnhau bod yr amcanion a'r targedau sefydliadol yn cyd-fynd â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion rheoliadol eraill
- Sut i bennu a fydd yr amcanion a'r targedau yn gwella'r perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac yn eu helpu i addasu i'r newid yn yr hinsawdd
- Pwysigrwydd cadarnhau bod amcanion a thargedau yn cyd-fynd â'r polisi amgylcheddol sefydliadol
- Pwysigrwydd cadarnhau bod yr amcanion a'r targedau yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, bod cyfrifoldeb wedi ei neilltuo, ac yn gaeth i amser
- Dulliau perthnasol ar gael ar gyfer cyfathrebu amcanion a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol i randdeiliaid perthnasol
- Pwysigrwydd cyfathrebu gyda rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud ag amcanion a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Dulliau perthnasol ar gyfer gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
- Pwysigrwydd cael mesurau gwerthuso a reoli ar waith i fonitro amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol