Gweithredu a monitro gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gweithredu a monitro gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol. Mae'n cynnwys cynllunio a gweithredu gwelliannau a argymhellir a'u monitro yn rheolaidd.
Mae'r safon hon yn briodol ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb am reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Cydlynydd systemau rheoli amgylcheddol neu gyfwerth
- Archwiliwr amgylcheddol
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu â'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu argymhellion archwiliad.
Mae hefyd yn cynnwys monitro'n rheolaidd y ffordd y mae gwelliannau wedi cynorthwyo'r sefydliad i wella eu perfformiad amgylcheddol.
Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu a monitro gwelliannau a argymehllir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol fod yn gysylltiedig â chyfrifiadau carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol.
Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cytuno ar unrhyw gamau ar gyfer gwella sydd yn deillio o'r archwiliad amgylcheddol sefydliadol gyda'r archwiliwr
- Cynnal asesiad risg o'r gwelliannau a argymhellir
- Cynllunio'r gwaith o weithredu'r gwelliannau mewn sefydliad a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Sefydlu systemau i weithredu a monitro gwelliannau yn y sefydliad a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Cadarnhau bod y gwelliannau yn fesuradwy yn erbyn amcanion sefydliadol
- Gweithredu gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Monitro effeithiolrwydd gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliad
- Cadarnhau bod y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, y gofynion asesu risg a pholisïau eich sefydliad yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- Adrodd am effeithiolrwydd gwelliannau i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd gweithredu canfyddiadau ac argymhellion archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Sut i nodi unrhyw gamau ar gyfer gwella sydd yn deillio o'r archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Pa fesurau reoli i'w rhoi ar waith i nodi unrhyw risgiau posibl y gallai'r gwelliannau a argymhellir eu cyflwyno i gydweithwyr, cymunedau lleol, neu'r cyhoedd
- Sut i gynllunio'r gwaith o weithredu'r gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol
- Y gofynion adnoddau ar gyfer gweithredu gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Y mathau o systemau y mae angen eu sefydlu i alluogi gweithredu a monitro gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Pwysigrwydd cadarnhau bod y gwelliannau yn fesuradwy yn erbyn yr amcanion sefydliadol
- Sut i weithredu gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Y dulliau ar gyfer monitro effeithiolrwydd gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol, rheoliadau neu bolisïau lleol a rhanbarthol, a pholisïau perthnasol eich sefydliad
- Pwysigrwydd adrodd am effeithiolrwydd gwelliannau i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo