Nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn disgrifio’r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn nodi ac yn gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol sefydliadol. Mae’r safon hon hefyd yn cynnwys cynnig opsiynau reoli i wella perfformiad amgylcheddol y sefydliad.
Mae agwedd amgylcheddol yn elfen o weithgareddau, cynnyrch neu wasanaethau sefydliad sydd yn, neu y gallai gael, effaith ar yr amgylchedd.
Gellir nodi a gwerthuso pan fydd sefydliad yn penderfynu gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol i ddechrau, neu fel rhan o welliant parhaus.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer:
· Unigolyn â briff penodol i nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ar gyfer y sefydliad
Mae’r safon hon yn cynnwys nodi gweithgareddau, cynnyrch neu wasanaethau’r sefydliad, sydd yn cael effaith ar yr amgylchedd.
Mae angen i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, gwasanaethau a’u gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a’u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a’u cyfrifiadau carbon. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i’r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Mae hefyd yn cynnwys cynnig gweithredoedd i reoleiddio neu reoli’r agweddau amgylcheddol arwyddocaol er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Defnyddio methodoleg berthnasol i nodi agweddau amgylcheddol arwyddocaol yn ymwneud â gweithgareddau, cynnyrch a gwasanaethau'r sefydliad
- Defnyddio methodoleg i nodi'r effeithiau amgylcheddol sydd yn deillio o'r agweddau amgylcheddol a nodwyd
- Defnyddio methodoleg berthnasol i werthuso'r agweddau a'r effeithiau amgylcheddol i bennu eu harwyddocad
- Ymgysylltu rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, wrth nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ar gyfer y sefydliad
- Cofnodi'r agweddau a'r effeithiau amgylcheddol a'u harwyddocad gan ddefnyddio fformat perthnasol
- Gweithredu system rheolaeth amgylcheddol addas (EMS), gan sicrhau integreiddio gyda systemau reoli eraill fel ansawdd ac iechyd a diogelwch
- Gweithredu adolygiad cyfnodol o agweddau ac effeithiau amgylcheddol a gofnodwyd a'u harwyddocad fel y diffinnir gan ofynion sefydliadol a rheoliadol
- Cynnig argymhellion ar gyfer reoli agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol i wella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Ymgysylltu rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig, wrth ddatblygu argymhellion arfaethedig
- Cynnig camau ar gyfer gweithredu argymhellion ar gyfer reoli agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, i wella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Y gofynion cyfreithiol ac arall (anrheoliadol) sydd yn berthnasol i'r sefydliad
2. Mewnbwn, allbwn, a gweithrediadau'r sefydliad
3. Agweddau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol y sefydliad
4. Agweddau amgylcheddol y sefydliad yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol
5. Agweddau amgylcheddol uniongyrchol ac anuniongyrchol y sefydliad
6. Mathau posibl o agweddau amgylcheddol annormal a brys y sefydliad
7. Sut i nodi agweddau arwyddocaol ac effeithiau posibl sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau, cynnyrch a gwasanaethau'r sefydliad
8. Pwysigrwydd cynnal asesiad cylch bywyd o'r holl gynnyrch wrth nodi agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
9. Pwysigrwydd asesu ôl troed carbon cynnyrch, gweithgaredd neu wasanaeth sydd yn cael ei gynnig gan y sefydliad wrth nodi ei agweddau a'i effeithiau amgylcheddol arwyddocaol
10. Pwysigrwydd asesu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a chyfrifiadau carbon y rheiny yr ydych yn prynu nwyddau a gwasanaethau oddi wrthynt
11. Sut i nodi a chael mynediad at ffynonellau gwybodaeth ychwanegol ac arbenigedd sydd ar gael i gynorthwyo i nodi agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
12. Y materion amgylcheddol lleol, cenedlaethol a byd-eang y mae cymdeithas yn eu hwynebu sydd yn effeithio ar y sefydliad
13. Pwysigrwydd gwella agweddau ac effeithiau amgylcheddol y sefydliad, i gynorthwyo gyda'r argyfwng newid hinsawdd a lleihau'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol
14. Y dulliau gwahanol sydd ar gael ar gyfer gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol wrth ystyried data ansoddol a meintiol a'r rhesymau dros wneud hynny
15. Sut i adnabod a chynnwys rhanddeiliaid perthnasol yn y broses o werthuso agweddau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
16. Sut i ddadansoddi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac adrodd eich canfyddiadau a
gwelliannau arfaethedig i berfformiad amgylcheddol y sefydliad
17. Y rheiny y dylid cyfathrebu'r gwelliannau arfaethedig iddynt
18. Y mathau o Systemau Rheolaeth Amgylcheddol sydd yn addas i'r sefydliad
19. Buddion a chyfyngiadau cyflwyno system rheolaeth amgylcheddol ffurfiol (EMS) i'r sefydliad
20. Yr arferion amgylcheddol sydd yn addas i'r sefydliad
21. Ymrwymiad y sefydliad i bolisi amgylcheddol neu System Rheolaeth Amgylcheddol
22. Sut i amcangyfrif buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a chostau gwelliannau arfaethedig
23. Methiant i reoli agweddau arwyddocaol o ran perfformiad amgylcheddol y sefydliad
24. Y risg o beidio â chymhwyso egwyddorion gwelliant parhaus i berfformiad amgylcheddol y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Nodweddion gwarchodedig:
- Oed
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
Methodoleg ar gyfer nodi agweddau ac effeithiau
- Methodoleg Grwpio
- Methodoleg Arolygu
- Methodoleg cydbwyso crynswth
- Methodoleg ôl-gyfrifo
- Methodoleg Potpourri