Adnewyddu ac atgyweirio peiriannau offer ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys adnewyddu ac atgyweirio peiriannau offer ar y tir. Mae’n cynnwys peiriannau tanio dwy strôc a phedair strôc a pheiriannau tanio cywasgiad a’u cyfluniadau. Mae’n cynnwys adnabod a swyddogaeth cydrannau, tynnu ac adnewyddu cyfluniad a chydrannau peiriannau a dulliau a thechnegau datgymalu, atgyweirio ac ailosod.
Mae’r safon hon yn cynnwys systemau a pherfformiad peiriant, gan ymgorffori’r cydrannau (mathau, adeiladwaith a swyddogaeth) a ddefnyddir i gyflenwi tanwydd ac aer yn y meintiau cywir ar gyfer y broses danio. Mae’n cynnwys systemau carbwreduron a chwistrellu tanwydd, hefyd systemau aer naturiol ac wedi eu gwefru gan bwysedd.
Mae hefyd yn cynnwys y technegau a ddefnyddir i ganfod ac unioni namau peiriannau mecanyddol a’r broses a ddefnyddir i ddilysu mesuriadau.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes peirianneg ar y tir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- archwilio cyflwr peiriannau a chydrannau offer ar y tir wrth adnewyddu ac atgyweirio
- archwilio rhannau sydd wedi methu neu wedi treulio
- cynnal profion i bennu achosion problemau peiriannau gwahanol
- tynnu ac adnewyddu peiriannau a/neu gydrannau offer ar y tir
- adnabod a chywiro namau ar systemau peiriant
- lle y bo’n briodol, datgymalu, atgyweirio ac ailosod cydrannau system peiriannau yn unol â manylebau a safonau cynhyrchwyr
- profi a gosod amseriad chwistrellu a thanio sefydlog a deinamig
- addasu perfformiad peiriant o fewn terfynau gweithredu penodol
- defnyddio offer mesur priodol i ddilysu cydymffurfiad cydrannau peiriannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i dynnu ac adnewyddu peiriannau a/neu gydrannau offer ar y tir wrth adnewyddu ac atgyweirio
- sut i ddatgymalu, adnewyddu ac ailosod peiriannau a/neu gydrannau yn unol â manylebau a safonau cynhyrchwyr
- mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu peiriannau a chydrannau
- sut i ganfod ac unioni achos problemau peiriant
- yr offer, y dulliau a’r technegau ar gyfer cymryd mesuriadau penodol i beiriant
- effeithiau gwneud gwelliannau i o leiaf un o’r canlynol; systemau rheoli tanwydd, mynediad neu beiriant
- y weithdrefn ar gyfer dilysu perfformiad peiriant
- y weithdrefn ar gyfer dilysu’r amseriad peiriant cywir ar gyfer amseriad sefydlog a deinamig
- achosion traul eithriadol peiriant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cydymffurfiad cydrannau peiriant - e.e.
- bylchau cylchedau piston
- silindr, leiniwr, meinhad, hirgrynedd ac allwthiad
- hirgrynedd mwnwgl crancsiafft ac arnofyn
- cliriadau piston/pen
- falf, canllaw, sedd, llinyn, system weithredu
- pen silindr/afluniad bloc
- cywasgiad
- defnydd o danwydd ac olew
peiriannau a chydrannau - e.e.
- peiriannau tanio dwy strôc a phedair strôc a thanio cywasgiad a’u cyfluniadau
- wedi eu hoeri gan aer a dŵr
- leinwyr gwlyb a sych, monobloc
- yn defnyddio aer naturiol ac wedi eu gwefru gan bwysedd (yn cynnwys cyfuniad turbo ac uwchwefru)
- cydbwyswyr ac ataliad dirgrynnu
- carbwreduron
- plygiau tanio
- pympiau tanio
- pympiau cyflenwi tanwydd
- chwistrellwyr
- rheolwyr
- cymhorthion dechrau oer
- systemau hidlo aer
- systemau ecsôst
problemau injan - e.e.
- perfformiad peiriant
- camdanio
- ôl-danio
- pwysedd olew peiriant
- gorgynhesu
- wedi cloi’n sownd
- sŵn afreolaidd
- ddim yn dechrau
- anadlu gormodol casyn cranc
- defnydd o olew
- pwysedd cyflenwi tanwydd a system
- pwysedd derbyn aer
- defnydd afreolaidd o danwydd,
- amseriad chwistrelliad, camsiafft a thanio
- allyriadau, e.e. mwg glas, gwyn neu ddu
- perfformiad peiriant ddim yn unol â manylebau’r cynhyrchydd
- cymysgedd gwan a chyfoethog o danwydd
- ymgymeriad a llif aer egsôst cyfyngedig
- dilysu gweithrediad rheolwr
- gweithredu dyfeisiadau dechrau oer