Asesu a rheoli ymddygiad ceffylau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys sut i asesu a rheoli ymddygiad ceffylau.
Bob tro y byddwch yn rhyngweithio gyda cheffyl, mae gennych y
potensial i newid eu patrymau ymddygiad i’w helpu i ddod yn gyfforddus â gofal carnau, gallai hyn fod trwy atgyfnerthu ymddygiad presennol neu greu rhai newydd.
Mae’n bwysig eich bod yn deall y gall eich ymddygiad effeithio ar y ffordd y bydd y ceffyl yn ymddwyn. Mae angen bod gennych y sgiliau angenrheidiol i reoli a chynnal eich ymddygiad eich hun.
Mae ceisio gwneud gwaith gofal arferol gyda cheffyl sydd heb ei hyfforddi’n dda ar gyfer y gwaith hwnnw yn cyflwyno risg i’ch diogelwch eich hun, diogelwch pobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a risg i les y ceffyl.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a lles anifeiliaid â'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- rhyngweithio gyda'r ceffyl mewn ffordd sy'n lleihau trallod ac yn caniatáu gofal a hyfforddiant i gael ei wneud yn ddiogel ar gyfer y ceffyl ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â'r gwaith, yn cynnwys chi eich hun
- asesu a rheoli patrymau ymddygiad ceffylau
- asesu a rheoli lefel yr hyfforddiant sydd ei angen ar y ceffyl i gyflawni'r ymddygiad gofynnol ar gyfer y dasg
- adnabod pryd mae ymddygiad y ceffyl ar lefel sy'n golygu nad yw'n ymarferol nac yn ddiogel i gwblhau'r dasg
- gwybod a yw'r hyfforddiant sy'n ofynnol o fewn lefel eich gallu
gwybod pryd i wneud cais bod y person cyfrifol yn gwneud hyfforddiant pellach a phryd i gyfeirio at arbenigwr ymddygiad ceffylau
creu cynllun hyfforddiant ar gyfer yr ymddygiad dymunol
- rhoi'r cynllun ar waith gan ddefnyddio methodoleg hyfforddiant bresennol
- rheoli'r cynllun hyfforddi er mwyn ystyried ymateb y ceffyl
- cydnabod ac ystyried y gallai fod gan y person cyfrifol safbwyntiau dilys ynghylch yr ymagwedd tuag at hyfforddiant
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau, eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy'n berthnasol i anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
y math o ddilad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
- sut i wybod y bydd eich ymddygiad yn cynrychioli hyfforddiant i'r ceffyl a sut gallai effeithio ar ymddygiad y ceffyl
sut gall ymwybyddiaeth ceffylau a bodau dynion fod yn wahanol mewn perthynas â synhwyrau gweld, arolgi, clywed, blasu a chyffwrdd
y gwahaniaeth o ran ymddygiad goroesi naturiol rhwng anifeiliaid ysglyfaethus a phrae a pherthnasedd hyn i batrymau ymddygiad ceffylau
patrymau ymddygiad naturiol gwahanol ceffyl wedi ei ddofi
- sut i adnabod patrymau ymddygiad sydd o ganlyniad i boen neu anesmwythdra neu o ganlyniad i brofiad trawmatig blaenorol a sut i ystyried y rhain wrth ryngweithio â'r ceffyl
- sut i adnabod ble y gallai patrymau ymddygiad fod wedi eu dylanwadu gan amgylchedd y ceffyl a deall sut i ystyried ffactorau o'r fath
- pwysigrwydd cynnwys y person cyfrifol wrth reoli ymddygiad y ceffyl
- y defnydd o ddulliau hyfforddi presennol, ac effaith y dulliau hyn ar ymddygiad ceffylau ac ymarferoldeb cymhwyso pob dull
- effeithiau a chanlyniadau ymarferol hyfforddiant a'r amgylchedd ar reoli dysgu ac ymddygiad ceffylau
- effaith llifogydd, dadsensiteiddio a gwrth-gyflyrru
- pwysigrwydd amseru a chysondeb mewn hyfforddiant
- sut i osod ac ysgrifennu cynllun hyfforddiant gyda nodau hyfforddiant perthnasol y gellir eu cyflawni ar gyfer y ceffyl
- arwyddocâd gosod nodau y gellir eu cyflawni yn y cynllun hyfforddiant a chymhwyso egwyddorion hyfforddiant
sut i asesu lefel bresennol ymddygiad ceffyl yn erbyn cynllun hyfforddiant i sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch ac i osgoi trallod i'r ceffyl
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl: ceffyl neu aelod arall o deulu’r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cyd-destunau a'r ceisiadau canlynol: