Tynnu pedolau ac asesu traul

URN: LANEHC8
Sectorau Busnes (Suites): Pedolwr,Gofal Carnau Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys tynnu pedolau i asesu traul y bedol a’r carn. Mae’r asesiad yn caniatáu gwerthuso cydymffurfio neu
anomaleddau cerddediad sydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr sydd yn gallu dylanwadu ar ofal carnau a chael ei defnyddio i ddatblygu’r
cynllun gofal carnau.

Er mwyn tynnu pedolau ac asesu traul bydd angen mynd at y ceffyl a’i drin mewn ffordd sydd yn lleihau straen a braw, gan weithio mewn safle sydd yn ddiogel ar gyfer y ceffyl ac unrhyw un sydd yn
gysylltiedig â’r gwaith yn cynnwys chi eich hun. Bydd angen i chi dynnu’r pedolau gan ddefnyddio’r offer cywir a pharatoi’r carn er mwyn iddo allu cael ei archwilio’n drwyadl.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.

Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu ymarferydd gofal carnau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr Gofal Carnau Ceffylau y DU.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a lles anifeiliaid â'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig

  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes

  4. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas

  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

  6. dewis y dull o drin a rheoli sy'n ofynnol ar gyfer y ceffyl perthnasol a'i anghenion, er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â'r gwaith yn cynnwys chi eich hun
  7. dewis, paratoi, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar gofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi cwmni

  8. glanhau ac asesu cyflwr y carn gan edrych am bethau dieithr neu niwed

  9. tynnu'r pedolau yn ofalus gan ddefnyddio'r offer a'r dulliau cywir, gan ofalu lleihau unrhyw niwed i'r carn wrth dynnu'r bedol

  10. archwilio'r pedolau ac asesu goblygiadau'r patrwm traul a chofnodi'r canfyddiadau hyn
  11. hysbysu'r person cyfrifol am eich canfyddiadau ac addasu'r cynllun gofal carnau yn unol â hynny
  12. cadarnhau bod iechyd a lles y ceffyl yn cael ei gynnal trwy gydol y gweithgaredd
  13. cydnabod materion y mae angen sylw gweithwyr proffesiynol eraill ym maes ceffylau arnynt
  14. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo

  15. cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy'n berthnasol i anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
  4. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
  6. terfynau gwaith diogel carn ac aelod y ceffylau

  7. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer tocio a sut i'w paratoi, eu defnyddio a'u storio, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau y cynhyrchydd a pholisi cwmni

  8. sut i ddefnyddio dulliau gwahanol o dynnu pedolau, yn dibynnu ar ofynion y ceffyl, a'r rhagofalon i'w cymryd i atal anaf i'r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â'r gwaith, yn cynnwys chi eich hun

  9. sut i godi, dal a gweithio gyda charnau ceffylau
  10. pryd i gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill ym maes ceffylau
  11. y ffactorau a allai effeithio ar ymddygiad mathau gwahanol o geffyl wrth ofalu am garnau

  12. sut i asesu ffurfiad ceffylau

  13. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  14. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ceffylau: ceffyl ac aelod arall o deulu’r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.

Cydsymudiad:  mae angen cydsymudiad ceffyl er mwyn twf a chynhaliaeth gywir yr aelodau, twf ac iechyd y carnau, yn ogystal ag iechyd anadlol, iechyd cylchrediad y gwaed a metaboledd.

Ffurfiad: mae ffurfiad ceffylau yn gwerthuso strwythur esgyrn, system gyhyrol a chyfrannau corff ceffyl mewn perthynas â’i gilydd. Gall ffurfiad annerbyniol gyfyngu ar allu i gyflawni tasg benodol.

Mae ffactorau gofal carnau i’w hystyried yn cynnwys:

  • Oed yn fras

  • Ymddygiad 

  • Math/cyflwr y carn

  • Lefel gweithgaredd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEHC8

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes, Gofal Anifeiliaid a Gwyddor Filfeddygol, Pedolwr, Tociwr Traed Ceffylau, Gofal Carnau Ceffylau

Cod SOC

5211

Geiriau Allweddol

ceffyl, carn, pedolau, iechyd, ceffylau