Gwneud gweithgareddau ar ôl tocio carnau
Trosolwg
Bydd y safon hon yn cynnwys sut i wneud gweithgareddau ar ôl tocio carnau. Bydd hyn yn unol â chynllun gofal carnau sydd wedi ei ddylunio i gyflawni ystod o weithgareddau a nodir ar gyfer iechyd
carnau ceffylau ar ôl tocio.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.
Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith gan berson cyfrifol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a lles anifeiliaid â'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- adolygu gweithgareddau ar ôl gorffen tocio carnau
- asesu cyflwr cerddediad a sgôr cyflwr corff y ceffyl ar ôl tocio carnau a thrafod unrhyw newidiadau i asesiadau blaenorol gyda’r person cyfrifol
- rhoi cyngor i’r person cyfrifol am lefelau gweithgareddu i gynnal lles y ceffyl
- rhoi cyngor i’r person cyfrifol am amodau amgylcheddol a allai effeithio ar iechyd carnau
- cydnabod materion sydd yn galw am sylw gweithwyr proffesiynol eraill ym maes ceffylau
- trafod a chytuno ar unrhyw newidiadau ar ôl tocio carnau i’r cynllun gofal carnau gyda’r person cyfrifol
- cadarnhau dyddiad ac amser yr ymweliad nesaf, os oes angen, gyda’r person cyfrifol
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy’n berthnasol i anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
- sut i adnabod afreoleidd-dra o ran symudedd sylfaenol a chamau gweithredu
- math a maint y gwaith y mae’r carn sydd wedi ei docio yn gallu ei wneud yn ei gyflwr iechyd presennol
- effaith amgylchedd y ceffyl ar iechyd y carn
- effaith maeth y ceffyl ar iechyd y carn
- rôl ac effaith offer wedi ei ddylunio i wella iechyd carnau
- rôl cynnyrch gofal carnau lleol o ran iechyd carnau, eu manteision a’u hanfanteision a sut i ddefnyddio mathau gwahanol o gynnyrch
- y cyfrifoldebau sydd yn gysylltiedig â rhoi cyngor ar gynnyrch yn ymwneud â gofal carnau, fel nad yw unrhyw gyngor yn cael ei ystyried fel diagnosis a thriniaeth
- pryd y byddai ceffyl yn elwa ar fewnbwn gan weithwyr proffesiynol ym maes ceffylau
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffylau: ceffyl neu aelod arall o deulu’r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.
Cyflwr y corff: bydd gordewdra a nychdod yn effeithio ar iechyd ceffylau; mae’n hanfodol cadw llygad ar y ceffyl a chyflwr gorau y corff. Gall sgôr cyflwr y corff gael ei effeithio gan amrywiaeth o ffactorau fel y porthiant sy’n cael ei fwyta, y tywydd, ymarfer corff, clefydau metabolaidd fel symdrom metabolaidd ceffylau, camweithrediad chwarren bitwidol pars intermedia, salwch, problemau gyda’r dannedd, heintiau parasitig, ac atgenhedlu.