Tocio carnau ceffylau

URN: LANEHC6
Sectorau Busnes (Suites): Pedolwr,Gofal Carnau Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys tocio carnau ceffylau fel y pennir gan y cynllun gofal carnau. Mae tocio’n cyfeirio at waith ar wyneb y carn trwy dorri a chrafu.

Bydd angen i chi wybod pryd i docio carnau a gallu tocio amrywiaeth o garnau ceffylau.  Er mwyn tocio carnau, bydd angen i chi fynd at y ceffyl a’i drin mewn ffordd sy’n debygol o leihau straen a braw a gweithio mewn safle sydd yn ddiogel i’r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r gwaith yn cynnwys chi eich hun.  Byddwch yn gweithredu ar unrhyw gyflyrau carnau sydd yn achosi newidiadau i’r cynllun gofal carnau.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.

Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sydd â chyfrifoldeb am y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu ymarferydd gofal carnau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr Gofal Carnau Ceffylau y DU.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a lles anifeiliaid â'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  3. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
  4. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  6. dewis ddull o drin a rheoli'r ceffylau dan sylw, er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl ac unrhyw un sy'n ymwneud â'r gwaith, gan gynnwys eich hun
  7. mabwysiadu safle gwaith sydd yn ddiogel ar gyfer y ceffyl a chi eich hun
  8. paratoi, cynnal a chadw, glanhau a storio’r offer a’r cyfarpar a deunyddiau gofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau’r cynhyrchydd a pholisi’r cwmni
  9. dewis offer perthnasol a thocio carnau gan ddefnyddio dulliau tocio yn unol â’r cynllun gofal carnau y cytunwyd arno
  10. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  11. cadarnhau bod y cofnodion yn cael eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol a’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol eraill ar gyfer anifeliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
  4. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a diogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
  6. y mathau o offer a chyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer tocio a sut i’w paratoi, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau’r cynhyrchydd a pholisi busnes
  7. y dulliau gwaith diogel ar gyfer tocio carnau
  8. diben tocio carnau ceffylau
  9. pwysigrwydd cydbwysedd carnau wrth docio
  10. terfynau a ffiniau tocio diogel
  11. effeithiau tocio ar ystum y ceffyl
  12. pwysigrwydd gwybod pryd na ddylid tocio
  13. sut i weithio’n ddiogel wrth docio carnau
  14. sut i weithredu’r cynllun gofal carnau
  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  16. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ceffyl: ceffyl neu aelod arall o deulu’r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod. 

Ffactorau gofal carnau i’w hystyried yn cynnwys:

  • Oed yn fras

  • Ymddygiad 

  • Cyflwr y carn
  • Lles

  • Amgylchedd 

  • Lefel gweithgaredd

  • Wedi ei bedoli’n flaenorol

  • Heb ei bedoli

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEHC6

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes, Gofal Anifeiliaid a Gwyddor Filfeddygol, Pedolwr, Tociwr Traed Ceffylau, Gofal Carnau Ceffylau

Cod SOC

5211

Geiriau Allweddol

ceffyl, carnau, tocio carnau moel, ceffylau, iechyd