Pennu a chytuno ar gynllun gofal carnau ar gyfer y ceffyl

URN: LANEHC5
Sectorau Busnes (Suites): Gofal Carnau Ceffylau,Pedoli
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys sut i bennu a chytuno ar gynllun gofal carnau ar gyfer y ceffyl gyda’r person cyfrifol. Mae cynllun gofal carnau yn hanfodol i gysur, lefel gweithgaredd a lles y ceffyl.

Er mwyn pennu’r cynllun gofal carnau ar gyfer y ceffyl, bydd angen i chi fynd at y ceffyl a’i drin mewn ffordd sydd yn lleihau straen a braw, gan weithio mewn safle sydd yn ddiogel i’r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r gwaith, yn cynnwys chi eich hun.

Bydd angen i chi baratoi’r carn er mwyn gallu ei archwilio.  Byddwch yn gallu archwilio’r carn a phennu anghenion gofal carn amrywiaeth o geffylau. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o anafiadau a chyflyrau iechyd sydd yn gyffredin i geffylau a phryd i gynnwys llawfeddyg milfeddygol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.

Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu ymarferydd gofal carnau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr Gofal Carnau Ceffylau y DU.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
  2. cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud ag anifeiliaid ac iechyd a lles anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
  3. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
  4. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  6. dewiswch ddull o drin a rheoli sy'n ofynnol ar gyfer y ceffyl dan sylw a lleihau'r risg i'r ceffyl ac unrhyw un sy'n ymwneud â'r gwaith gan gynnwys eich hun
  7. mabwysiadu safle gwaith sydd yn ddiogel ar gyfer y ceffyl a chi eich hun
  8. glanhau’r carn i hwyluso archwiliad trwyadl
  9. archwilio’r carn ac asesu’r cyflwr a’r patrwm traul
  10. pennu a chytuno ar gynllun gofal carnau gyda’r person cyfrifol gan ystyried lefel gweithgaredd y ceffyl
  11. archwilio cydffurfiad y ceffylau
  12. adnabod unrhyw arwyddion annodwediadol sydd yn gofyn am ymgynghoriad milfeddygol
  13. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  14. cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
  4. sut i asesu ffurfiad carnau ceffylau
  5. effaith tocio rheolaidd a thraul ar dwf carnau
  6. amlder tocio a’r effaith ar siâp y carn
  7. anatomeg a ffisioleg manwl y goes yn cynnwys y pen-glin a’r gâr
  8. swyddogaeth pob rhan o’r carn
  9. ffurfiad ac ymsymudiad y ceffyl a sut mae’r ffactorau hyn yn berthnasol i fiomecaneg y carn
  10. sut i adnabod camffurfiad, clefyd neu anaf yn y ceffyl a sut gall y carn ac ymsymudiad gael eu heffeithio gan y iddynt
  11. y triniaethau ar gyfer camffurfiad, clefyd a/neu anaf i’r aelod a’r carn y gallai gael eu rhagnodi gan lawfeddyg milfeddygol
  12. y dulliau ar gyfer mesur y carn a pherthnasedd a diben hyn
  13.  sut i bennu cynllun gofal carnau
  14.  pwysigrwydd trafod diagnosis milfeddygol blaenorol a allai effeithio ar gynllun gofal y carn gyda llawfeddyg milfeddygol
  15. pwysigrwydd defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn ystod yr asesiad cydffurfiad a lefel y gweithgarwch a fwriedir wrth benderfynu ar gynlluniau gofal carnau
  16. egwyddorion cydbwysedd sefydlog a deinamig y carn
  17. y nodweddion amgylcheddol a rheolaeth a allai gael eu cynnwys mewn cynllun gofal carnau
  18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  19. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu llenwi yn unol â chodau ymarfer â’r ddeddfwriaeth drefniadol berthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ceffylau: ceffyl neu aelod arall o deulu’r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.

Ymsymudiad:  symudiad; mae angen ymsymudiad ceffyl ar gyfer twf a chynhaliaeth cywir, twf ac iechyd carnau, yn ogystal ag iechyd anadlol, iechyd cylchrediad y gwaed a mataboledd.

Ffurfiad: mae ffurfiad ceffylau yn gwerthuso strwythur esgyrn, system gyhyrol a chyfrannau corff ceffyl mewn perthynas â’i gilydd.  Gall ffurfiad annymunol gyfyngu’r gallu i gyflawni tasg benodol.

Anghenion gofal traed amrywiaeth o geffylau gan gynnwys:

  • Ceffylau ifanc

  • Ceffylau aeddfed 

  • Hen geffylau

  • Ceffylau â phedolau

  • Ceffylau heb bedolau

Anafiadau a chyflyrau iechyd cyffredin:

Gallai ymyriadau ymyrraeth gynnwys:

  • Brwsio

  • Torri’n gyflym

  • Gorymestyn

  • Tanymestyn 

Gallai cyflyrau iechyd gynnwys:
  • thrush
  • laminitis
  • syndrom metabolig ceffylaidd
  • paredau pitwchiau rhynggyfryngol
  • crawniadau
  • clefyd y llinell wen
  • twll yn y wal carnau

  • craciau yn waliau'r carnau

  • afluniad capsiwl carnau




Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEHC5

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes, Gofal Anifeiliaid a Gwyddor Filfeddygol, Pedolwr, Tociwr Traed Ceffylau, Pedoli

Cod SOC

5211

Geiriau Allweddol

ceffyl, carn, troednoeth, iechyd, ceffylau, ffurfiad, gofal carnau