Asesu cyflwr a gofynion gofal carnau y ceffyl
URN: LANEHC4
Sectorau Busnes (Suites): Pedolwr,Gofal Carnau Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys asesu cyflwr cyffredinol a gofynion gofal carnau y ceffyl er mwyn pennu cynllun gofal carnau. Mae’n hanfodol i gysur, lefel gweithgaredd a lles y ceffyl.
Er mwyn asesu cyflwr cyffredinol y ceffyl a’i ofynion gofal carnau, bydd angen i chi fynd at y ceffyl a’i drin mewn ffordd sy’n lleihau trallod a braw. Bydd angen i chi ddod o hyd i safle gweithio sy’n ddiogel i’r ceffyl ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â’r gwaith, yn cynnwys chi eich hun.
Bydd angen i chi arsylwi’r ceffyl tra’i fod yn llonydd ac yn symud. Bydd angen i chi drafod y cyflwr cyffrednol a lefel gweithgaredd ddymunol y ceffyl a chytuno ar y gofynion gofal carnau gyda’r person cyfrifol. Byddwch yn gwybod sut i asesu’r cyflwr a’r gofynion ar gyfer amrywiaeth o geffylau.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.
Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu ymarferydd gofal carnau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) perthnasol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- dewis y dull o drin a rheoli sy’n ofynnol ar gyfer y ceffyl perthnasol a’i anghenion, er mwyn lleihau’r risg i’r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r gwaith yn cynnwys chi eich hun
- asesu gofynion y ceffyl gan ystyried ei anghenion ffisiolegol a’i amgylchedd
- nodi’r cyfeiriadau anatomegol, anatomeg y carnau, anatomeg gyffredinol a ffisioleg ceffyl
- asesu ymsymudiad y ceffyl, gan ystyried y berthynas rhwng ymsymudiad a chydffurfiad y ceffyl
- trafod a chytuno ar ofynion gofal carnau y ceffyl gyda’r person cyfrifol
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy’n berthnasol i anifeiliaid a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol presennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
- y bridiau a’r mathau gwahanol o geffylau, eu rhinweddau a’u nodweddion ymddygiadol
- anatomeg a ffisioleg sylfaenol y ceffyl
- anatomeg weithredol carnau a biomecaneg y ceffyl
- anatomeg deipograffyddol carn ceffyl
- sut i adnabod pwyntiau ac ardaloedd y ceffyl
- terminoleg ceffylaidd a chyfeiriadau anatomegol perthnasol
- sut i asesu gofynion gweithgareddau gwahanol ceffylau ar y carn
- sut i asesu ffurfiad ceffyl
- sut i adnabod afreoleidd-dra cydsymudiad a gweithred sylfaenol mewn ceffyl
- anatomeg a ffisioleg y ceffyl iach a sut mae’r darlun sy’n cael ei gyflwyno’n wahanol i hyn
- sut i roi sgôr i gyflwr y corff ac effaith cyflwr y corff ar iechyd cyffredinol ac iechyd carn y ceffyl
- effaith anafiadau, annormaleddau dirywiol a datblygiadol ar iechyd carn y ceffyl
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl: ceffyl ac aelod arall o deulu'r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod,
asennod a mwlsod.
Cydsymudiad: symudiad; mae angen cydsymudiad ceffyl er mwyn twf a chynhaliaeth gywir yr aelodau, twf ac iechyd y carnau, yn ogystal ag iechyd anadlol, iechyd cylchrediad y gwaed a metaboledd.
**
Ffurfiad: mae ffurfiad ceffyl yn gwerthuso strwythur esgyrn, system gyhyrol a chyfrannau corff ceffyl mewn perthynas â'i gilydd. Gall ffurfiad annymunol gyfyngu'r gallu i gyflawni tasg benodol.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
03 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEHC4
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes, Gofal Anifeiliaid a Gwyddor Filfeddygol, Pedolwr, Tociwr Traed Ceffylau, Gofal Carnau Ceffylau
Cod SOC
5211
Geiriau Allweddol
ceffyl, esgid, carn, iechyd, ceffylau