Asesu effaith amgylcheddol ar garnau ceffylau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys asesu amgylchedd ceffylau a sut gall
effeithio ar iechyd carnau ceffylau. Byddwch yn deall bod cynnal
asesiad trwyadl o ffactorau amgylcheddol yn weithgaredd pwysig wrth reoli iechyd carnau ceffylau.
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau'r busnes.
Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un â chyfrifoldeb dros y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu ymarferydd gofal carnau.
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr Gofal Carnau Ceffylau y DU.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a lles anifeiliaid â'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cyflawni eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth, codau ymarfer a pholisïau perthnasol y busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- asesu llety ac amgylchedd y ceffyl a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar garnau ceffylau
- trafod a chytuno ar gynllun gyda’r person cyfrifol ynghylch sut i reoli effaith yr amgylchedd ar y ceffyl er mwyn cynnal a gwella iechyd carnau
- cynghori ar unrhyw agweddau ar yr amgylchedd y dylid eu newid, gan gydnabod pryd y dylid cyfeirio problemau at weithiwr ceffylau proffesiynol perthnasol
- trafod effaith yr agweddau perthnasol o asesiad iechyd gyda’r person cyfrifol, yn cynnwys gosodiad y cyfrwy, iechyd deintyddol, neu’r defnydd o fwtsias carnau neu badiau therapiwtig ar iechyd carnau
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol eraill anifeiliaid, a chyfngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresenol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
- effeithiau llety ar garnau ceffylau
- y ffordd y mae amodau amgylcheddol yn effeithio ar iechyd carnau ceffylau, a sut gellir rheoli’r rhain i wella iechyd carnau ceffylau yn cynnwys cyfradd twf carnau a thraul carnau
- effeithiau lefel gweithgaredd a chyfundrefnau gwaith a disgyblaethau amrywiol ceffylau ar iechyd carnau ceffylau
- effaith deiet a maeth ar iechyd carnau ceffylau
- effaith haint ar garnau ceffylau yn cynnwys sut i leihau’r perygl y bydd yn digwydd eto, a rôl system hylendid
- sut i adnabod haint yng ngharnau ceffylau a phwysigrwydd trafod y diagnosis a’r driniaeth gyda llawfeddyg milfeddygol
- rôl cynnyrch arwynebol gofal carnau o ran iechyd carnau ceffylau yn cynnwys eu manteision, eu hanfanteision a’u defnydd cywir
- y cyfyngiadau a’r goblygiadau yn ymwneud â rhoi cyngor ar gynnyrch gofal carnau, gan sicrhau nad yw unrhyw gyngor yn cael ei ystyried fel diagnosis neu driniaeth
- sut i adnabod achosion lle mae clefyd neu salwch wedi effeithio ar iechyd y carn ac angen ymyrraeth filfeddygol
- sut i arwain cleient i gyfeirio achosion o glefyd neu salwch sydd wedi effeithio ar iechyd y carn at lawfeddyg milfeddygol a sut i gysylltu â llawfeddyg milfeddygol yn ystod ac ar ôl y broses hon
- y potensial ar gyfer triniaethau meddygol i effeithio ar iechyd carnau ceffylau
- sut i roi sgôr i gyflwr y corff ac effaith cyflwr y corff ar iechyd cyffredinol a charn y ceffyl
- effaith agweddau eraill ar ddofi ar iechyd carnau ceffylau fel pedoli, gosodiad y cyfrwy ac iechyd deintyddol
- y defnydd o fwtsias carnau a/neu badiau a’r ffordd y gellir defnyddio’r rhain i gefnogi a gwella iechyd carnau
- argaeledd ymyriadau y gellir ond eu defnyddio o dan oruchwyliaeth filfeddygol, y sefyllfaoedd lle gellir defnyddio’r rhain a sut i weithio gyda llawfeddyg milfeddygol i nodi a rhoi ymyriadau ar waith
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl: ceffyl neu aelod arall o deulu'r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.
**
Llety: bydd hyn yn cynnwys argaeledd lloches, trefniadau troi allan, yr arwynebeddau y bydd y carn yn dod i gysylltiad â nhw – wrth gael ei droi allan a'i gadw i mewn a rhyddid y ceffyl i symud.
Ffactorau amgylcheddol: yn cynnwys deiet, gofal carnau, lefel gweithgaredd, teithio, rhyngweithio cymdeithasol, cyfundrefn rhoi mewn stabl a throi allan, daear, cyswllt â gwlybaniaeth a llygrwyr.